Busnesau bach yn arallgyfeirio er mwyn goroesi

  • Cyhoeddwyd
Gillian Jones, Becws Islyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gillian Jones o Becws Islyn bod "pawb yn gefnogol iawn"

Mae perchnogion busnesau bach yn dweud y bydd rhaid iddyn nhw fod yn greadigol er mwyn goroesi cyfnod hirach o gyfyngiadau cymdeithasol.

Pan gyhoeddodd Boris Johnson ar 23 Mawrth y byddai'n rhaid i nifer o fusnesau gau fel rhan o fesurau i leihau ymlediad feirws Covid-19, daeth yn amlwg na allai caffis, siopau bach a thafarndai aros ar agor.

Ond dros yr wythnosau diwethaf mae nifer o'r busnesau hynny wedi arallgyfeirio neu addasu er mwyn sicrhau incwm a chynnig gwasanaeth i'w cwsmeriaid tra'n cadw o fewn rheolau'r cyfyngiadau.

Cyn y gwaharddiadau roedd Becws Islyn yn Aberdaron yn gwerthu bara a chacennau yn eu caffi yn y pentref.

Ond yn ddiweddar mae'r becws wedi ailddechrau pobi bara, ac mae'r cwmni rŵan yn danfon eu cynnyrch i gannoedd o gwsmeriaid ar hyd a lled Llŷn a rhannau o Eifionydd.

'Ymateb anhygoel'

Dywedodd Gillian Jones, sy'n berchen ar y cwmni gyda'i gŵr Geraint: "Mae o wedi effeithio dipyn arnon ni a deud y gwir, rydyn ni wedi gorfod newid ein system yn gyfan gwbl.

"Naethon ni benderfynu ein hunain y basem ni'n cau'r siop achos doedden ni ddim eisiau cyswllt hefo pobl, ac mae'r ddau staff sydd gennym ni ar y system furlough.

"Geraint a fi sydd yn pobi rŵan. Rydyn ni yn cymryd archebion dros y ffôn ac rydyn ni yn mynd allan hefo'r fan yn delifro bob dydd Llun.

"Mae'n anhygoel [yr ymateb]. Rydyn ni'n cyfro o Uwchmynydd i Chwilog a draw am Lithfaen a Nefyn - mae'n dda ofnadwy.

"Rydyn ni'n gwerthu dros 700 torth, sy'n anhygoel. Mae pawb yn gefnogol iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Beckett o dafarn Twnti hefyd yn mynd i gasglu presgripsiynau i bobl y pentref

Mae tafarndai hefyd wedi bod yn meddwl am ffyrdd o gynnig gwasanaeth gwahanol i'w cwsmeriaid.

Roedd Tafarn Tu Hwnt i'r Afon, neu Twnti, yn Rhyd-y-clafdy yn gyrchfan boblogaidd cyn y gwaharddiadau a bu rhaid i'r rheolwr, Catrin Beckett, feddwl yn greadigol er mwyn gallu cynnal incwm a darparu gwasanaeth i'w chwsmeriaid.

"I ddechrau roedd rhaid i ni gau ochr y dafarn ac mi wnaeth hynny effeithio arnom ni," meddai.

"Roedden ni'n gorfod rhoi staff off ac o'n i ddim yn siŵr iawn be' i'w wneud i fynd ymlaen."

'Llwyddiannus iawn'

Ar ôl pythefnos o ystyried, penderfynodd Catrin ganolbwyntio ar gynnig clud-fwyd i'w chwsmeriaid a chadw'r siop gymunedol.

"Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn - rydyn ni wedi gwerthu allan bob diwrnod ers i ni ddechrau," meddai.

"Mae gynnon ni siop fach yn Twnti, a 'dan ni yn hel archebion dros Facebook, yn hel y nwyddau at ei gilydd a mynd â nhw allan i'r gymuned."

Erbyn hyn mae wyth i 10 o deuluoedd yn manteisio ar eu gwasanaeth ac maen nhw hefyd yn mynd i'r dref agosaf i gasglu presgripsiynau i'r rhai sydd eu hangen.

Adolygiad am lacio cyfyngiadau

Mae'r Siambr Fasnach Brydeinig wedi galw am gynllun manwl i amlinellu a sut y bydd y cyfyngiadau cymdeithasol yn cael eu llacio.

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gyhoeddi adolygiad am y pwnc yr wythnos hon.

Ond mae nifer o fewn y diwydiant manwerthu a gweini yn disgwyl y bydd 'na anawsterau am wythnosau lawer.

Maen nhw'n credu y bydd eu dyfeisgarwch wrth feddwl am ffyrdd newydd o fasnachu yn allweddol i gadw'u pennau uwchben y don nes byddan nhw'n cael ailagor.