Ymgyrch godi arian i achub Amgueddfa Forwrol Llŷn
- Cyhoeddwyd
Mae cyfeillion Amgueddfa Forwrol Llŷn yn Nefyn wedi dechrau ymgyrch i godi arian i geisio achub y sefydliad - sydd mewn trafferthion ariannol oherwydd argyfwng coronafeirws.
Gwirfoddolwyr ac un gweithiwr cyflogedig sy'n rhedeg yr amgueddfa, ond bu'n rhaid i'r safle gau ganol mis Mawrth oherwydd y cyfyngiadau ddaeth i rym.
Roedd yr amgueddfa'n dibynnu ar gyfraniadau gwirfoddol ymwelwyr i gadw fynd, yn ogystal ag incwm elw'r caffi bychan sydd yno. Ond heb unrhyw lif arian bellach, mae'r amgueddfa yn dal i wynebu biliau.
Colli incwm
Fe fuasai'r gwyliau hanner tymor hwn yn brysur tu hwnt, yn ôl un o'r gwirfoddolwyr, Janet Wyn Hughes.
"Mi fasan ni'n edrych ymlaen at un o'r wythnosau prysura' a deud y gwir, hefo'r Sulgwyn wythnos nesa'," meddai.
"Mae yna lawer iawn o ymwelwyr yn galw yn ogystal â phobl leol a 'dan ni'n cael grwpiau o bobl ella yn dod o Nant Gwrtheyrn, pobl yn dod i gerdded, ambell i drip Haf Merched y Wawr.
"Ond eleni fel mae'r sefyllfa ar hyn o bryd does neb yn symud, does neb yn mynd i nunlle does nunlle yn agored.
"Heb yr ymwelwyr, dydan ni ddim yn cael cyllid oherwydd roedd pawb sy'n dod naill ai'n prynu rhywbeth yn y siop, neu yn rhoi rhywbeth yn y bocs rhoddion, neu maen nhw'n cael paned a chacen ac mae hyn i gyd yn arian sydd wir ei angen arnon ni i redeg yr hen eglwys."
Sefydlwyd yr amgueddfa yna ym 1977, ond roedd yr adeilad yn dirywio a bu rhaid cau yn 2000. Saith mlynedd yn ddiweddarach daeth criw ynghyd i godi arian i ail-wneud yr eglwys, a dechreuwyd ar y gwaith yn 2012.
Agorodd yr amgueddfa ar ei newydd wedd chwe blynedd yn ôl ac mae'n diogelu nifer o greiriau hanesyddol. Oherwydd hynny mae rhaid cadw'r tymheredd yn gyson sy'n golygu bil trydan sylweddol.
"Mae rhaid i ni gadw tymheredd yr eglwys yn wastad trwy'r flwyddyn," meddai Meinir Jones, un o'r ymddiriedolwyr.
"Mae yna gynnal a chadw o hyd ar hen adeilad 'fatha hwn er ein bod ni wedi cael ei ail-wneud o, mae o'n grêt tu mewn. A'r bil mawr arall ydi yswirio'r lle ac mae'r ddau beth yna yn glec go fawr i ni bob blwyddyn."
'Gobeithiol iawn'
Mae Cyfeillion yr Amgueddfa wedi sefydlu cronfa, gyda'r nod o godi £2,000 i gynnal yr adeilad hyd nes y bydd modd ailagor.
Ond o gofio'r ymdrech enfawr a fu i adfer yr adeilad mae'r gwirfoddolwyr yn benderfynol o barhau.
"Rydan ni'n obeithiol iawn," meddai Janet Wyn Hughes.
"Mae rhaid i ni drio'i gadw, mae'n adnodd mor bwysig i Ben Llŷn ac yn ehangach, ar ôl yr holl waith sydd wedi mynd i mewn i'r lle mae rhaid i ni frwydro i'w gadw yn agored."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2020
- Cyhoeddwyd10 Mai 2020
- Cyhoeddwyd14 Mai 2020