Capeli'n cydweithio i roi hwb ymarferol i Ben-y-groes
- Cyhoeddwyd

Y gobaith yw bod yn gefn i drigolion pentref Pen-y-groes yn Nyffryn Nantlle
Mae dau gapel o ddau enwad gwahanol yn Nyffryn Nantlle wedi penderfynu cydweithio er mwyn rhoi hwb i bobl yr ardal a "cheisio gwneud y neges Gristnogol yn fwy perthnasol i fywyd bob dydd".
Karen Owen, sydd wedi'i geni a'i magu yn y pentref, fydd yn arwain y cynllun rhwng Capel y Groes (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) a Chapel Soar (Annibynwyr) wrth iddi dreulio'r flwyddyn nesaf yn dilyn cwrs 'Profi Galwad' gyda chymorth grant y Presbyteriaid.
'Ffydd sy'n bwysig nid crefydd'
"Rydan ni'n byw mewn cyfnod anodd, lle mae pobl yn cael eu gwasgu yn ariannol, o ran iechyd meddwl ac o ran dewisiadau," meddai Karen Owen.

Dywed Karen Owen ei bod am adeiladu ar weithgareddau fel y côr pop-yp a ddaeth i gefnogi y teulu Ogunbanwo
"Rhwng pryderon cyffredinol am sgil effeithiau Covid-19, diweithdra ac anobaith mae'r eglwysi am gynnig help ymarferol a sicrhau nad yw pobol yn teimlo'n unig a di-gefn.
"Mae angen swyddi a sicrwydd ymarferol ar bawb, ond mae angen i ni beidio anwybyddu'r anghenion ysbrydol hefyd.
"Mae gweld dau gapel cryf yn dod at ei gilydd yn codi calon, oherwydd ffydd sy'n bwysig, nid crefydd."

Roedd y ffatri, sydd ym Mhen-y-groes ers degawdau, ar un adeg dan berchnogaeth cwmni Kruger Tissue Group
Fis Mai fe gafodd yr ardal ergyd wedi i gwmni cynhyrchu papur tŷ bach gyhoeddi bwriad i gau eu ffatri. Roedd ffatri Northwood Hygiene yn cyflogi 94 o weithwyr yn yr ardal.
Ynghanol Mehefin roedd yna sioc yn yr ardal wedi i rywun baentio arwydd swastika ar ddrws garej teulu du.
Pawb angen cefnogaeth
"Y syniad sydd gen i," ychwanegodd Ms Owen, "yw bod yn gwbl ymarferol wrth gyflwyno neges yr efengyl - nid jyst rhywbeth yn perthyn i gapel yw e ond mae'n perthyn i'r ffordd 'dan ni'n ymddwyn.
"Yn ystod cyfnod y cloi mawr 'dan ni wedi gweld pobl yn cymryd rhan mewn ffordd sy'n llai gweladwy - er enghraifft gwylio gwasanaethau ar y we ond hefyd dyna pryd ddaeth côr pop-yp yr ardal i ddangos eu cefnogaeth, dolen allanol a chanu emynau o flaen cartref Margaret Ogunbanwo a'i theulu.

Y côr pop-yp yn dangos eu cefnogaeth i deulu Margaret Ogunbanwo
"Mae'r côr pop-yp yn un cyd-enwadol. Does yna ddim ymarferion - mae nhw yn cwrdd am 9 o'r gloch ar ddydd Sul rhyw dair gwaith y flwyddyn a'u syniad nhw oedd dod i ddangos eu cefnogaeth i deulu Margaret Ogunbanwo.
"Mae angen adeiladu ar bethau felly. Rhaid i ni sicrhau pobl nad oes rhaid iddyn nhw fod ar eu pennau eu hunain - be bynnag eu cyflwr.
"Mae angen iddyn nhw allu troi at rywun i gael cefnogaeth," ychwanegodd Karen Owen.
Mae tua 200 o aelodau rhwng y ddwy eglwys ac mae 1,500 yn byw yn y pentref a chyfanswm o 5,000 ym mhentrefi cyfagos Dyffryn Nantlle.
'Dim gweithgareddau yn anodd'
Mae Alun Ffred Jones, cyn AS Arfon, yn aelod yng nghapel Soar. Dywedodd bod y cynllun yn rhoi "delwedd mwy cyfoes i waith yr eglwys."
Ychwanegodd: "Gan fod y ddau gapel heb weinidog, mae'n syniad da ac yn rhoi cyd-destun mwy real i bethau ac yn gynllun fydd yn delio â heriau a sialensiau cyfoes.
"Mae yna golledion trwm wedi bod yn yr ardal hon o ran gwaith, mae helyntion wedi bod a phryderon eraill yn sgil coronafeirws.
"Nid y salwch fel y cyfryw sy'n anodd ond yn ei sgil mae gweithgareddau cymdeithasol wedi peidio bod ac mae degau o deuluoedd yn wynebu sefyllfa hynod o anodd ac o bosib heb gefnogaeth.
"Yn sicr, mae delio gydag anghenion cymdeithasol yn rhan o genhadaeth yr eglwys."
Mae mwy am y stori yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12.30 ddydd Sul ar BBC Radio Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2020
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020