Coronafeirws: Bygythiad mawr i chwaraeon yr ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae yna "fygythiad enfawr" i chwaraeon bobl ifanc yng Nghymru, gyda'r posibilrwydd na fydd yna gemau cystadleuol yn cael eu cynnal o gwbl yn y gaeaf.
Dywed clwb criced ieuenctid Casnewydd mae'n bosib na allant chwarae nac hyfforddi am flwyddyn.
Does yna ddim cyffwrdd corfforol yn cael ei ganiatáu ym mhêl-droed a rygbi, ac mae un hyfforddwr yn poeni y bydd chwaraewyr yn colli diddordeb.
Dywed Chwaraeon Cymru fod angen atebion creadigol wrth i ni ailfeddwl sut mae modd cael plant i gymryd rhan.
Yn ôl Mike Knight, hyfforddwr Tîm Criced Iau Casnewydd, mae'r clwb wedi colli £40,000 dros yr haf.
Fe wnaeth y clwb osod targed i godi £10,000 drwy dudalennau Crowdfunding er mwy caniatáu i 2000 o blant hyd ag 17 oed allu hyfforddi drwy'r gaeaf.
Roeddynt yn agos i gyrraedd y nod, pan roddwyd gwybod iddynt nad oedd modd iddynt barhau i ddefnyddio cyfleusterau canolfan tennis y ddinas.
Roedd y clwb wedi bod yn defnyddio'r safle ym Mhentref Chwaraeon y ddinas am dros 20 mlynedd.
Ond oherwydd rheolau cadw pellter cymdeithasol, bu'n rhai i reolwyr y safle symud offer o'r gampfa i'r ganolfan Tenis.
Mae tymor chwarae'r ieuenctid yn para am dri mis.
Ond yn y gaeaf maen nhw'n hyfforddi gan barhau am gyfnod o dros naw mis, gan ddefnyddio rhwydi dan do.
Mae yna gyfleusterau yng Nglyn Ebwy, ond mae hynny 40 milltir o daith yna ac yn ôl .
Dywedodd Mr Knight nad oedd yn siŵr faint o rieni fyddai'n fodlon gwneud y daith.
"Mae criced yn yr ardal dan fygythiad mawr," meddai.
"Mae ieuenctid yn dod yma, a 10 mlynedd wedyn maen nhw' wedi llwyddo i chwarae i Forgannwg. Ond bydd dim modd cynhyrchu chwaraewyr yn yr un modd ag o ni'n arfer."
Mae hyfforddwyr rygbi a phêl-droed hefyd yn poeni. Er bod ieuenctid yn gallu hyfforddi does dim modd taclo na chyffwrdd yn gorfforol.
Dywed Gethin Owen, sy'n gyfrifol am dîm dan 9 oed Penrhosgarnedd ym Mangor, fod chwaraewyr yn rhwystredig.
Dywedodd fod rhieni i rai o'r 100 o blant yn cwestiynu'r ffioedd ar gyfer y tymor nesaf sy'n ddaliadwy i Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
"Maen nhw'n mwynhau hyfforddi, ond ychydig yn rhwystredig gan nad oes targed cystadleuol ar eu cyfer."
'Atebion creadigol'
Dywedodd llefarydd ar ran Chwaraeon Cymru ei bod mor bwysig ag erioed i blant gael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon - ond fod yn rhaid i hyn fod mewn dull gwahanol, gan roi blaenoriaeth i ddiogelwch.
"Rydym yn gweithio gydag ein partneriaeth i greu atebion creadigol ac i ailfeddwl sut bod modd cynnal chwaraeon er mwyn rhwystro unrhyw bylu mewn diddordeb - yn enwedig ymhlith ieuenctid ac mewn grwpiau lle rydym yn gwybod yn draddodiadol fod yna rwystrau i gael mynediad," meddai.
"Fe fydd pethau yn edrych yn wahanol, ac fe fydd yna rwystrau i'w gorchfygu ond mae'n rhoi cyfle i ni newid pethau i'r hir dymor a gyda photensial i newid er gwell."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2020
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020