Poeni am effaith Covid-19 ar brentisiaethau i'r ifanc

  • Cyhoeddwyd
Keyframe #1

Fe all goblygiadau economaidd y pandemig olygu bod 'na lai o gyfleodd prentisiaethau i bobl ifanc ar draws Cymru, yn ôl elusen addysg ôl-16, ColegauCymru.

Dywedodd prif weithredwr Colegau Cymru, Iestyn Davies fod angen rhagor o "hyblygrwydd a buddsoddiad" gan y Llywodraeth os yw busnesau am oroesi'r dirwasgiad.

Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw eisoes wedi buddsoddi "£40m i faes datblygu sgiliau a swyddi"- cam, meddan nhw, fydd yn ganolog i recriwtio a chadw 5,000 o brentisiaid ychwanegol.

Mae pwysigrwydd prentisiaethau yn rhan o gyfres BBC Cymru - Haf Dan Glo - wrth drafod gyda phobl ifanc am eu profiadau yn ystod y pandemig

Disgrifiad o’r llun,

Roedd derbyn prentisiaeth "yn ddewis hawdd" i Ifan Phillips

Boed hi'n ganol haf neu aeaf mae gwaith Ifan Phillips o ardal Crymych fel prentis trydanol yn ddiddiwedd.

Ar ôl derbyn prentisiaeth gyda chwmni ei daid, roedd peidio â mynd i'r Brifysgol yn benderfyniad hawdd ac amlwg iddo.

"Doeddwn i ddim yn or-hoff o waith ysgol ac o ni wedi cael llond bol a gwneud y gwir a dwi'n un sy'n licio dysgu a gweithio gyda fy nwylo," meddai.

"Prentisiaeth oedd y ffordd gorau mlaen i mi gael y cymwysterau i gefnogi fy ngwaith crefft.

"Mae'n bwysig achos sna'm pob un yn hoff o fynd i'r brifysgol ac astudio mewn dosbarth. Os maen nhw fel fi mae prentisiaeth yn ddewis hawdd."

'Targed o 100,000'

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 100,000 o brentisiaethau o fewn tymor gwleidyddol y llywodraeth bresennol.

Ond wrth i effeithiau economaidd y pandemig barhau i fygwth busnesau Cymru mae 'na bryder faint o gyfleodd fydd i bobl fel Ifan dros y misoedd nesaf.

Yn ôl prif weithredwr ColegauCymru mae angen i'r system fod yn "fwy hyblyg".

"Mae cynlluniau prentisiaethau yn eithaf ddi-hyblyg," meddai Iestyn Davies.

"Mae 'na systemau caffael sy'n creu'r cynllun ond yn anffodus nid dyna yw'r ffordd orau yn enwedig mewn cyfnod o newid cymdeithasol ac economaidd.

"'Da ni'n gofyn am fwy o hyblygrwydd gan y Llywodraeth, am sicrwydd ariannol."

Ychwanegodd Mr Davies y bydd adferiad economi Cymru yn anodd iawn heb sgiliau prentisiaid fel Ifan.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Elen Jones ei bod wedi cael blwyddyn "anhygoel" fel prentis gyda'r Urdd ym Môn

Ers bron i flwyddyn bellach mae Elen Jones o Amlwch wedi bod yn brentis gyda'r Urdd yn arwain grwpiau ar yr ynys.

"Mae'r profiad dwi 'di gael yn gwneud y brentisiaeth yma dros y flwyddyn dwetha wedi bod yn anhygoel," meddai.

"Dwi di cael cymaint o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau a dysgu pethau newydd.

"Mae'r prentisiaeth yma wedi bod mor werthfawr a 'swn i'n annog unrhyw berson ifanc i neud o."

Ffynhonnell y llun, Jonathan Powell
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen codi ymwybyddiaeth pobl ifanc ynghylch pob ffordd bosib i ddatblygu gyrfa, medd Jonathan Powell

Ond wrth i ddisgyblion ar draws Cymru dderbyn eu graddau arholiadau'r wythnos hon mae 'na boeni hefyd fod 'na fwy i wneud er mwyn hysbysebu llwybrau gyrfa llai traddodiadol.

Mae Jonathan Powell yn Aelod o'r Senedd Ifanc ac yn cynrychioli ardal Wrecsam.

"Dydi prentisiasid ddim yn cael eu hysbysebu neu eu pwysleisio yn y chweched dosbarth neu yn yr ysgol," meddai.

"Mae'n rhaid i i ysgolion a cholegau baratoi pob math o ddisgybl at nifer fawr o yrfaoedd.

"Os da ni'n edrych ar ein hamser ni mewn addysg rydym oll yn sefyll yr un arholiadau ond ar ôl ysgol, mae'r byd yn agor i fyny."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gweithio yn agos gyda chyflogwyr a cholegau er mwyn sicrhau bod ein prentisiaethau yn rhai o'r rhai gorau yn y DU.

"Rydym ar y llwybr cywir i gyrraedd ein targed o 100,000 o brentisiaethau yn ystod cyfnod y llywodraeth.

"Tra bod y pandemig yn her i bawb, rydym yn parhau i weithio gydag ein partneriaid i gyrraedd y nod.