Gething 'yn barod' i gyflwyno cyfnod clo cenedlaethol

  • Cyhoeddwyd
A5Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gall Gymru fod dan gyfnod clo cenedlaethol ymhen saith wythnos neu lai os nad oes newid mewn ymddygiad, meddai'r Gweinidog Iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething y byddai'n barod i gyflwyno cyfnod clo arall ar draws Cymru petai'r nifer o achosion coronafeirws yn parhau i godi.

Yng nghynhadledd y llywodraeth, ychwanegodd y "gallwn ni fod mewn sefyllfa i wneud y penderfyniad yn gynt na'r cyfnod saith wythnos" os oes rhaid.

Yn gynharach, dywedodd y byddai'n well ganddo petai'r DU yn gweithredu fel un, ond ychwanegodd y byddai'n fodlon gweithredu dros Gymru petai'n angenrheidiol.

Daw hyn ar ôl i ymgynghorydd gofal dwys rybuddio fod yna debygrwydd rhwng y sefyllfa ar hyn o bryd a'r cyfnod cyn i ysbytai orfod delio gyda'r don gyntaf o achosion Covid-19.

Dywedodd Mr Gething ei fod yn disgwyl gweld cynnydd mewn cleifion ar wardiau ysbytai dros yr wythnosau nesaf, yn sgil clystyrau o achosion mewn ardaloedd yn ne Cymru.

"Rydyn ni i weld mewn sefyllfa baralel â dechrau Chwefror, ac roedden ni mewn cyfnod clo cenedlaethol erbyn trydedd wythnos mis Mawrth. Felly mae gyda ni sawl wythnos i geisio gwella'r sefyllfa - neu bydd dim dewis ond cyfnodau clo mwy, a'r potensial am gyfnod clo cenedlaethol, sy'n sicr nid lle rydyn ni eisiau bod," meddai fore Llun.

Yn y gynhadledd, dywedodd: "Os nad oes newid mewn ymddygiad yna gallwn fod nid saith wythnos i ffwrdd o gyfnod clo posib, ond llawer llai."

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod hyn yn neges i'r cyhoedd, mae cyfnod cyfyngiedig i ni ail-ystyried ein dewisiadau, ac ymddwyn yn wahanol, os ydyn ni am osgoi mwy o gyfnodau clo lleol neu genedlaethol."

VG
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething yn dweud y byddai yn barod i weithredu ar ran Cymru yn unig os oes rhaid

Yn gynharach, dywedodd Mr Gething wrth y BBC y byddai'n fodlon gweithredu dros Gymru petai angen: "Fyddai ddim yn ddewis genna'i i Gymru weithredu ar ben ei hun - fyddai'n well gen i gydlynu priodol rhwng pedair llywodraeth y DU.

"Os na chawn ni'r cydweithredu hwnnw ar draws y pedair gwlad, fe wnawn ni barhau i drafod gyda'r llywodraethau hynny sy'n fodlon siarad gyda ni.

"Rwy'n barod, ac y mae'r Prif Weinidog yn barod, i benderfynu ar ran Cymru yn unig, ond mae'n anodd i bobl weld negeseuon gwahanol gan lywodraethau gwahanol."

'Pethau'n dechrau dwysáu'

Fel ymgynghorydd yn uned gofal dwys Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, roedd Dr David Hepburn ar flaen y gad pan fu ysbytai'r ardal dan bwysau aruthrol yn wythnosau cychwynnol y pandemig yng Nghymru.

Mewn cyfweliad ym mis Gorffennaf, dywedodd fod uned gofal dwys yr ysbyty wedi dod yn "agos iawn i'r dibyn ar un adeg".

Ar Radio Wales ddydd Llun, dywedodd: "Mae yna bendant deimlad fod pethau'n dechrau dwysáu eto.

David HepburnFfynhonnell y llun, David Hepburn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfnod presennol yn teimlo'n debyg i'r cyfnod cyn y don gyntaf o achosion Covid-19, medd Dr David Hepburn

"Gawson ni gyfnod yn Chwefror pan doedd dim llawer yn digwydd cyn i ni gael achosion active ym mis Mawrth, ac mae yna adleisiau o hynny ar hyn o bryd.

"Rydan ni ar high alert, ac yn meddwl mai mater o amser yw hi cyn i ni ddechrau gweld cleifion mewn unedau gofal dwys.

"Mewn gwirionedd, mae yna gleifion mewn unedau gofal dwys nawr yn ne Cymru gyda Covid, a fydd hi ddim yn hir cyn i rai fod yn ddigon sâl i orfod dod aton ni."

£33m am ysbyty newydd

Yn y cyfamser mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi £33m o gyllid ar gyfer cyfleuster newydd ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro i ymdopi ag unrhyw gynnydd posibl mewn achosion o coronafeirws dros y gaeaf.

Bydd y cyfleuster newydd, fydd yn cael ei adeiladu drws nesaf i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, yn darparu 400 o welyau ychwanegol.

Daw wedi i Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality cael ei ddatgomisiynu fel ysbyty maes.