Achos Nantgaredig: 'Gwaed sych yn nhrwyn' diffynnydd

  • Cyhoeddwyd
Andrew Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Jones yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn

Roedd dyn o Gaerfyrddin sy'n gwadu llofruddio cariad ei wraig â "gwaed sych" yn ffroen ei drwyn y tro cyntaf y cafodd ei holi gan yr heddlu.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Andrew Jones, 53, hefyd wedi dweud wrth dditectifs ei fod wedi rhybuddio Michael O'Leary ei fod am "ddinistrio ei fywyd".

Does neb wedi gweld Mr O'Leary ers iddo fethu â dychwelyd i'w gartref yn Nantgaredig ar 27 Ionawr eleni, a dydy ei gorff heb ei ddarganfod eto.

Mae'r erlyniad yn honni fod y diffynnydd wedi defnyddio ffôn cyfrinachol ei wraig, Rhiannon, i hudo Mr O'Leary i fferm mewn ardal ddiarffordd ac yna ei lofruddio.

Mae Andrew Jones yn gwadu cyhuddiad o lofruddio Mr O'Leary.

Honiad yr erlyniad yw fod Mr Jones wedi saethu Mr O'Leary'n farw ar dir Fferm Cincoed, ar gyrion Caerfyrddin, a llosgi ei gorff ar ôl defnyddio peiriant codi nwyddau i'w symud.

'Crafiad' ar foch y diffynnydd

Clywodd y rheithgor dystiolaeth gan yr heddwas a holodd Rhiannon Jones yn Ysbyty Glangwili ddiwrnod wedi diflaniad Mr O'Leary.

Siaradodd y Ditectif Gwnstabl Ed Cuthbertson wedi hynny ag Andrew Jones.

Darllenodd fanylion o'i lyfr nodiadau i'r llys, gan ddisgrifio sylwi "gwaed sych" o fewn ffroen chwith Mr Jones a "chrafiad" ar ei foch.

Disgrifiad o’r llun,

Andrew Jones, gyda'i wraig, Rhiannon

Soniodd Mr Jones ddim wrth yr heddlu ei fod yn gwybod am berthynas ei wraig gyda Mr O'Leary.

Yn ddiweddarach yr un diwrnod dywedodd yr heddlu wrtho eu bod yn ymwybodol bod y berthynas wedi dod i'w sylw ym Medi 2019.

Atebodd Mr Jones ei fod "wedi dweud celwydd" am nad oedd am iddyn nhw wybod am y berthynas, ac "yn difaru" gwneud hynny. Ychwanegodd: "Gobeithio nad ydy'r peth wedi cael effaith ar les Mike."

Roedd ei wraig, meddai wrth yr heddlu, wedi dweud wrtho fod y berthynas gyda Mr O'Leary ar ben, oherwydd roedd yntau wedi penderfynu aros gyda'i wraig, Sian.

"Roedd Rhiannon... yn anhapus ynghylch hyn, a dywedodd nad oedd yn fy ngharu, hyd yn oed cynt," dywedodd.

'Aros amdano'

Dywedodd yr heddlu wrth Mr Jones eu bod hefyd yn gwybod ei fod wedi ymweld â Fferm Cincoed ar 27 Ionawr.

Mewn datganiad, fe gadarnhaodd Mr Jones wedyn i'r heddlu iddo ddanfon neges destun at Mr O'Leary gan "esgus" ei bod gan Rhiannon Jones, yn gofyn i'w gyfarfod yn y fferm.

Dywedodd ei fod wedi darganfod y ffôn "cyfrinachol" y diwrnod hwnnw, a dyfalu'n cod i'w ddatgloi, sef blwyddyn eu priodas.

Roedd wedi dweud wrth Dditectif Gwnstabl Cuthbertson ei fod eisiau "wynebu" Mr O'Leary ynghylch negeseuon gyda'i wraig, oherwydd roedd wedi "addo" i'w ferch Cari, yn ystod ffrae yng Nghlwb Rygbi Nantgaredig y penwythnos hwnnw, i stopio'r negeseuon.

Dywedodd ei fod wedi anghofio'i ffôn ei hun, ac yn bell ei feddwl wrth ddanfon neges ato o ffôn ei wraig.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew Jones wrth yr heddlu fod Michael O'Leary wedi cael sioc o'i weld wrth gyrraedd y fferm

Dywedodd nad oedd yn cuddio wrth aros amdano yn y buarth, yn sefyll o flaen ei gar yn y tywyllwch. Ond doedd ddim eisiau i Mr O'Leary ei weld tan ar ôl iddo barcio'i gar, a dywedodd ei fod "wedi cael sioc o 'ngweld i" wrth gyrraedd yr eiddo.

Roedd y ddau wedi trafod y berthynas, a'r gofid i'w ferch, Cari wrth glywed ei rhieni'n dadlau yn ei gylch.

Roedd Cari, meddai, wedi dweud wrth ei mam ei bod "wedi colli pob parch ati" ac yn "ei chasáu", a'i bod "yn ddrwg am fod yng nghwmni Mrs O'Leary yn ystod y dydd a gyda'i gŵr "gyda'r nos".

Roedd hefyd wedi dweud wrth Mr O'Leary bod ei wraig a'i ferch wedi cymryd gorddos yn ddiweddar, a'i fod ei hun wedi colli pwysau.

Dywedodd Mr Jones yn ei ddatganiad fod Mr O'Leary wedi dweud "gwn fod e'n rong" sawl tro, a'i fod wedi cwrdd Mrs Jones "deirgwaith a chael rhyw".

Ychwangodd Mr O'Leary na fyddai fyth yn gadael ei wraig, meddai, a'u bod yn ceisio cryfhau eu perthynas.

'Dim cysylltiad corfforol'

Dywedodd Mr Jones ei fod "yn crynu fel deilen oherwydd roedd y peth mor emosiynol" a bod Mr O'Leary yn "wylo", ond mynnodd bod "dim cysylltiad corfforol rhyngddom ar unrhyw adeg".

Roedd Mr Jones wedi dweud wrth Mr O'Leary ei fod wedi "dinistrio" bywyd ei ferch a'i fod yn mynd i ddweud wrth ei wraig am y berthynas.

Yn ôl datganiad Mr Jones, fe yrrodd Mr O'Leary i ffwrdd, gan ymddiheuro sawl tro, cyn aros wrth y giatiau am o gwmpas chwarter awr.

"Meddyliais ei fod yn ffonio'i wraig," medd y datganiad.

Dywedodd Mr Jones wrth dditectifs wedyn ei fod wedi aros yn Fferm Cincoed "am oddeutu awr", gan ddarllen negeseuon WhatsApp ar ffôn cyfrinachol ei wraig cyn dychwelyd adref.

Mae'r achos yn parhau.