'Dyn wedi hudo ei ffrind cyn ei ladd a chael gwared â'r corff'
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth dyn 53 oed "hudo" ei ffrind i ardal diarffordd cyn ei ladd a chael gwared ar y corff, clywodd llys ddydd Llun.
Mae Andrew Jones o Gaerfyrddin yn gwadu llofruddio Michael O'Leary - a oedd, clywodd y llys, yn cael perthynas gyda gwraig Mr Jones - ym mis Ionawr eleni.
Cysylltodd teulu Mr O'Leary, 55 oed o Nantgaredig yn Sir Gâr, â'r heddlu wedi iddo fethu â dychwelyd adre o'i waith ar 27 Ionawr.
Cafodd safle tirlenwi ym Mhontardawe a nifer o safleoedd gwledig yn Sir Gaerfyrddin eu harchwilio fel rhan o ymchwiliad Heddlu Dyfed-Powys ond dyw'r llu heb ddod o hyd i gorff Mr O'Leary.
Wrth agor yr achos ar ran yr erlyniad, dywedodd William Hughes fod Andrew Jones wedi "cynllunio'r llofruddiaeth yn fanwl" a'i fod wedi "dinistrio corff Michael O'Leary mewn ymgais i atal ymchwiliad yr heddlu".
Dywedodd Mr Hughes fod yr amddiffyniad yn "awgrymu" mewn gohebiaeth cyn dechrau'r achos "bod Mike O'Leary wedi'i ladd ar ddamwain tra oedd ym mhresenoldeb Andrew Jones".
'Defnyddio ffôn cyfrinachol'
Clywodd y llys fod Mr O'Leary wedi bod mewn perthynas â gwraig Mr Jones a ddechreuodd "rywbryd yn 2019" - roedd y ddau'n aelodau o'r un gampfa yng Nghaerfyrddin.
Dywed yr erlyniad fod Mr Jones - a oedd yn adnabod Mr O'Leary ers dros 20 mlynedd - wedi dod i wybod am y berthynas.
Clywodd y llys fod gwraig Mr Jones, Rhiannon, a Mr O'Leary yn defnyddio "ffonau cyfrinachol".
Roedd Andrew Jones yn defnyddio "ffôn cyfrinachol" ei wraig ar brynhawn 27 Ionawr, meddai'r erlyniad, ac roedd hyn yn "hynod arwyddocaol".
Dywed William Hughes, ar ran yr erlyniad, fod Mr Jones wedi anfon negeseuon testun o ffôn ei wraig yn "hudo" Mr O'Leary i Fferm Cyncoed "ar gyrion Caerfyrddin", eiddo yn perthyn i Mr Jones.
"Dyna'r lleoliad, meddai'r Goron, y daeth Mr O'Leary i'w farwolaeth o achos y diffynnydd yma," meddai Mr Hughes.
Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, dywedodd yr erlyniad wrth y llys fod Mr Jones wedi ei weld ar deledu cylch cyfyng yn ei gartref ar Ffordd Bronwydd, gan adael ei sied "yn cario rhaff neu gebl".
Ar 14 Mawrth eleni, daeth ymchwilwyr yr heddlu hefyd o hyd i ddarn o berfedd dynol, wedi'i ddarganfod ar waelod cynnwys hylifol "casgen olew rhydlyd" a ddarganfuwyd yng nghyfeiriad cartref Mr Jones.
"Dangosodd dadansoddiad fforensig pellach o'r perfedd fod y proffil DNA yn cyfateb i broffil Mike O'Leary.
"Roedd y gwyddonydd fforensig a wnaeth y dadansoddiad hwn hefyd o'r farn bod y perfedd yn rhoi ymddangosiad iddo gael ei losgi."
Clywodd Llys y Goron Abertawe hefyd am y digwyddiadau yn ymwneud â diflaniad Michael O'Leary.
Clywodd y llys fod gwraig a phlant Mr O'Leary wedi derbyn neges o'i ffôn ar 27 Ionawr yn dweud ei fod "mor sori".
O ganlyniad cysylltodd y teulu â'r heddlu, ac fe ddaethon nhw o hyd i gar Mr O'Leary "wedi'i gloi ac yn wag" ym maes parcio'r Fisherman's yn Nghapel Dewi.
Dywedodd yr erlyniad hefyd wrth y llys am ddigwyddiad mewn noson yng Nghlwb Rygbi Nantgaredig, deuddydd cyn i Mr O'Leary ddiflannu.
Clywodd y llys fod cofnodion ffôn symudol yn dangos bod un o ferched Mr a Mrs Jones yn "cadw llygad" ar ei mam ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Mr Jones am "yr hyn, os unrhyw beth, oedd yn digwydd".
Dywed yr erlyniad fod y diffynnydd wedi dweud wrth yr heddlu fod "dadl wedi digwydd pan ddychwelodd y teulu o'r clwb rygbi", gan fod merch Rhiannon Jones yn ddig gyda'i mam am siarad â Mr O'Leary wrth y bar.
Dywedodd yr erlynydd mai "yr hyn a ddigwyddodd nesaf" oedd bod "ar ryw adeg ar y dydd Sadwrn," roedd gwraig "Mr Jones" "wedi cwympo allan o'r gwely".
Cafodd ei derbyn i Ysbyty Glangwili "ychydig ar ôl hanner nos ar 28 Ionawr", clywodd y llys.
Ar 26 Ionawr, clywodd y llys y gwelwyd Andrew Jones ar deledu cylch cyfyng yn gwneud nifer o deithiau o'i gartref ar Ffordd Bronwydd i'w swyddfa.
Cafodd ei weld â "gwrthrychau", ac yn cario siaced high-vis. Roedd hyn yn "arwyddocaol", yn ôl yr erlyniad, "oherwydd gwelwyd beiciwr ar deledu cylch cyfyng a chan dystion, yn dod o'r ardal yn Capel Dewi lle daethpwyd o hyd i Nissan Nivara llwyd Mr O'Leary yn wag mewn maes parcio".
"Dywed y Goron mai dyna'r diffynnydd yn paratoi ar gyfer yr hyn a oedd i ddigwydd yn y pen draw ar 27 Ionawr. 27 Ionawr yw'r diwrnod y dywedwn i'r diffynnydd hwn lofruddio Mike O'Leary."
Mae disgwyl i'r achos bara am dair i bedair wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020