Llofruddiaeth: Dyn 'wedi ei saethu' cyn symud ei gorff

  • Cyhoeddwyd
Michael O'LearyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r heddlu wedi dod o hyd i gorff Michael O'Leary

Ar ail ddiwrnod yr achos i farwolaeth Michael O'Leary clywyd honiadau fod y gŵr 55 oed o Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin wedi cael ei saethu, cyn i'w gorff gael ei symud gyda pheiriant codi nwyddau.

Mae Andrew Jones o Gaerfyrddin yn gwadu iddo lofruddio Mr O'Leary fis Ionawr eleni, wedi iddo ddarganfod ei fod yn cael perthynas gyda'i wraig.

Fe ddiflannodd Michael O'Leary ar 27 Ionawr eleni. Cafodd ei gerbyd Nissan Navara llwyd ei ddarganfod mewn maes parcio bychan ger pentref Capel Dewi ar gyrion Caerfyrddin, ac ofer fu'r chwilio amdano ar y pryd.

Yn y gwrandawiad, clywyd fod tystion wedi gweld dyn mewn siaced lachar yn seiclo o gyfeiriad yr heol i Gapel Dewi toc cyn 21:00 y noson honno, a bod ffôn gwraig y diffynnydd yn yr ardal ar y pryd.

Perthynas ddirgel

Yn ystod y cyfnod yma, roedd teulu Michael O'Leary yn poeni amdano, a derbyniodd ei wraig a'i feibion neges destun oddi ar ei ffôn yn dweud ei bod yn edifar ganddo.

Mae'r Goron yn dweud taw Andrew Jones anfonodd y negeseuon hynny.

Fe gysylltwyd gyda'r heddlu a dechreuodd y chwilio amdano. Pan ddaeth plismon o hyd i gerbyd Mr O'Leary yn y maes parcio, fe nododd fod y teiars yn oer a bod y cerbyd wedi bod yno am gyfnod.

Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod Rhiannon Jones wedi bod yn cael perthynas tu ôl cefn ei gwr, Andrew, ers 2019

Wrth i ymchwiliadau'r heddlu ddechrau, fe ddaethon nhw'n ymwybodol fod Mr O'Leary yn cael perthynas gyda gwraig Andrew Jones, Rhiannon Jones, ac fe wnaethon nhw ymweld â hi yn Ysbyty Glangwili.

Yn ôl Andrew Jones, roedd hi wedi syrthio o'i gwely.

Datgelodd Mrs Jones wrth yr heddlu fod ganddi ffôn cudd y byddai'n ei defnyddio i gysylltu gyda Mr O'Leary.

Yn ôl erlyniad y Goron, fe gafodd Mr O'Leary ei ddenu i fferm Cincoed yng Nghwmffrwd gan gyfres o negeseuon o'r hyn a gyfeiriwyd ato yn y llys fel ffôn cudd Mrs Jones.

Mae'r Goron yn dweud bod ei ffôn hi ym meddiant ei gŵr ar y pryd - ac mai fo oedd yn gyfrifol am anfon y negeseuon.

Dyma, yn ôl y Goron, oedd ble llofruddiodd Andrew Jones Mr O'Leary.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Jones yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn

Yn y gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe fore dydd Mawrth, clywyd fod proffil DNA oedd yn cyfateb i un Michael O'Leary wedi ei ddarganfod ar fotymau ar dir fferm Cincoed.

Clywodd y llys hefyd fod bwledi gwag wedi eu darganfod yno, a bod olion gwaed Mr O'Leary wedi eu darganfod ar beiriant codi nwyddau ar y safle, ar ddillad Andrew Jones, ar frwsh, ac wrth gist ei gar.

Nododd y Goron fod swyddogion fforensig o'r farn bod y bwledi wedi dod o wn gafodd ei ddarganfod yng nghartref Andrew Jones, yn Heol Bronwydd, Caerfyrddin.

Ychwanegodd yr erlyniad bod olion o berfedd wedi llosgi wedi ei ddarganfod mewn casgen olew rydlyd ar dir y cartre hwnnw fis Mawrth eleni.

Roedd y proffil DNA yn cyfateb i un Michael O'Leary. Nodwyd hefyd fod olion rhagor o esgyrn dynol wedi eu darganfod yno a bod camerâu cylch cyfyng yn dangos fflamau yn iard y cartref.

Wrth gael ei gyfweld, mae'r Goron yn dweud fod Andrew Jones wedi nodi iddo gael ffrwgwd gyda Michael O'Leary ar dir fferm Cincoed ac iddo farw'n ddamweiniol. Dywedodd nad oedd yn sicr pwy daniodd y fwled.

Mae Andrew Jones yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac mae'r achos yn parhau.