Gwrthdrawiad rhwng bws a cherbydau yn y Rhondda

  • Cyhoeddwyd
PORTHFfynhonnell y llun, CHRIS FAIRWEATHER/HUW EVANS AGENCY

Mae dau berson wedi eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng bws a cherbydau yng Nghymer ger Porth yn Rhondda Cynon Taf fore Mercher.

Roedd y ddau yn teithio mewn cerbydau gwahanol pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 09:03 ar Fryn Trebanog. Mae'r ddau - dyn a menyw - mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Cafodd nifer o bobl eraill, yn cynnwys gyrrwr y bws, fân anafiadau.

Aeth swyddogion yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans i gynorthwyo, ac fe gafodd offer arbenigol y gwasanaeth tân ei ddefnyddio er mwyn rhyddhau unigolion o'u cerbydau.

Mae'r ffordd ar gau ar hyn o bryd ac mae'r heddlu yn gofyn i bobl osgoi'r ardal.

Dywedodd llefarydd o Wasanaeth Ambiwlans Cymru: "Cawsom ein galw ar ddydd Mercher 16 Medi am tua 09:03 yn dilyn adroddiadau am ddamwain ffordd fawr oedd yn cynnwys nifer o gerbydau a nifer o unigolion wedi eu hanafu ym Mhorth.

Ffynhonnell y llun, CHRIS FAIRWEATHER/HUW EVANS AGENCY

"Fe wnaethom ymateb gyda thri cherbyd ymateb brys, chwe ambiwlans, pedwar cerbyd o'n Tîm Ymateb Ardal Beryglus ac fe gawsom gefnogaeth gan y Gwasanaeth Adfer a Throsglwyddo Meddygol Brys.

"Mae dau glaf yn cael eu cludo mewn ambiwlans i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ac mae un claf yn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ym Mhont-y-clun. Mae rhai o'n criwiau yn parhau yn y lleoliad."

Yn dilyn y gwrthdrawiad dywedodd cwmni Western Power Distribution fod 71 eiddo cyfagos heb drydan yng Nghymer, wedi i geblau gael eu heffeitho yn lleol.