Enwau anarferol ar blant

  • Cyhoeddwyd
babiFfynhonnell y llun, Cecile Lavabre

Yn 2019, Mali oedd yr enw Cymreig mwyaf poblogaidd ar ferched yng Nghymru ac Arthur oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar fechgyn.

Ond beth am yr enwau Cymreig lleiaf poblogaidd?

Mae Cymru Fyw wedi bod yn edrych ar restrau'r Swyddfa Ystadegau (ONS) i ganfod yr enwau Cymraeg a Chymreig lleiaf cyffredin yn 2019.

Dyma'r rhestrau ar gyfer merched a bechgyn, gyda nifer y plant a gafodd yr enw mewn cromfachau.*

Enwau Cymraeg lleiaf cyffredin ar ferched yn 2019, yn nhrefn yr wyddor:

  • Anest (4)

  • Arwyn (4)

  • Awel (4)

  • Awen (4)

  • Branwen (3)

  • Buddug (4)

  • Ceridwen (3)

  • Deryn (3)

  • Eiri (4)

  • Elliw (3)

  • Eluned (3)

  • Glena (3)

  • Gwenyth (4)

  • Heti (3)

  • Leusa (3)

  • Llio (4)

  • Luned (3)

  • Lwsi (4)

  • Madlen (3)

  • Maelys (4)

  • Meg (4)

  • Myfi (3)

  • Nanw (4)

  • Nesta (4)

  • Nia-Rose (3)

  • Perl (3)

  • Popi (4)

  • Siwan (4)

  • Tanwen (3)

Disgrifiad o’r llun,

Sut mae Branwen Williams o'r bandiau Siddi a Cowbois Rhos Botwnnog yn teimlo am y ffaith fod yna brinder Branwens?! Tair a anwyd yn 2019.

Mae rhai oedd ar waelod y rhestr o ran poblogrwydd yn 2018, fel Saran ac Eirlys wedi codi o ran nifer gyda saith Saran a naw Eirlys wedi eu geni yn 2019, tra nad ydi Glesni yn ymddangos yn y rhestr o gwbl yn 2019, er bod tair wedi cael yr enw yn 2018.*

Beth am y bechgyn felly?

Enwau Cymraeg lleiaf cyffredin ar fechgyn yn 2019, yn nhrefn yr wyddor:

  • Arwel (4)

  • Brychan (4)

  • Calon (3)

  • Cellan (4)

  • Cybi (3)

  • Cynan (4)

  • Dafi (4)

  • Deri (3)

  • Eifion (4)

  • Glyndwr (3)

  • Griffydd (3)

  • Hedd (4)

  • Hefin (3)

  • Iorwerth (3)

  • Lewyn (3)

  • Lleu (3)

  • Llewyn (3)

  • Llion (3)

  • Llywelyn (3)

  • Macs (3)

  • Math (3)

  • Moi (3)

  • Mostyn (3)

  • Now (3)

  • Owyn (3)

  • Rhian (4)

  • Rhidian (3)

  • Ynyr (4)

Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Llion Williams: mae ei enw yn dal ei dir er mai dim ond tri Llion newydd ddaeth i'r byd yn 2019.

Mae enwau o restr lleiaf cyffredin 2018, fel Deian, Geraint a Nedw wedi codi ychydig o ran nifer yn 2019 - roedd yna naw Deian a saith Nedw. Rhoddwyd yr enw Geraint ar bump o blant, ac mae hynny'n ychydig o'i gymharu gyda 1998 pan ganwyd 41 Geraint.*

Cafodd tri bachgen yr enw Glyndwr yn 2019 hefyd, gyda enw'r tywysog Cymreig yn ymddangos am y tro cyntaf ers o leiaf 20 mlynedd: rhywbeth yn y dŵr mae'n rhaid!

Mwy o fanylion...

Mae'r rhestrau uchod yn cynnwys enwau cyntaf plant gafodd eu geni yng Nghymru a Lloegr yn 2019.

*Er mwyn diogelu cyfrinachedd unigolion, dydy Swyddfa'r Ystadegau ddim yn rhyddhau gwybodaeth pan fo dim ond un neu ddau o blant wedi derbyn enw penodol.

Hefyd o ddiddordeb: