Nantgaredig: Gwaed ar beiriant codi nwyddau diffinydd

  • Cyhoeddwyd
Michael O'LearyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r heddlu wedi dod o hyd i gorff Michael O'Leary

Fe ddaeth arbenigwyr fforensig o hyd i waed ar beiriant forklift mewn eiddo i ddyn sydd wedi ei gyhuddo o saethu cariad ei wraig.

Mae Andrew Jones yn gwadu cyhuddiad o lofruddio Michael O'Leary ar ôl ei ddenu i fferm Cincoed yn Sir Gaerfyrddin.

Dywed yr erlyniad fod yr adeiladwr o Gaerfyrddin yna wedi ceisio celu'r hyn yr oedd wedi ei wneud gan greu'r argraff fod Mr O'Leary wedi neidio i mewn i afon.

Clywodd Llys y Goron Abertawe gan arbenigwr fforensig oedd wedi archwilio'r fferm, ac oedd yn credu fod y gwaed ar ffyrc y cerbyd forklift "biliwn gwaith yn fwy tebygol" o fod yn waed Mr O'Leary na neb arall oedd heb gysylltiad ag o.

Esboniodd Clare Morse sut yr oedd yr heddlu wedi dweud wrthi fod Jones wedi cyfaddef iddo ddefnyddio "ffôn cyfrinachol" ei wraig i ddenu Mr O'Leary i'r fferm, gan ddefnyddio ei char i yrru yno.

Dywedodd hefyd fod yr heddlu wedi dweud wrthi fod Mr Jones wedi cyfaddef iddo fynd a dryll yno i "ddychryn" Mr O'Leary, bod ffrwgwd wedi bod a'i fod wedi ei gicio yn ei wyneb gan achosi gwaedlyn trwyn.

Yn ôl Mr Jones fe gafwyd ail ffrwgwd pan afaelodd Mr O'Leary yn y dryll ac fe'i saethwyd yn ei ên.

Dywedodd Mr Jones wrth yr heddlu mai damwain oedd yr hyn ddigwyddodd ac "nid oedd yn gwybod" pwy daniodd y dryll.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd lluniau o'r beiriant codi nwyddau, a oedd - yn ol yr erlyniad - yn cynnwys olion gwaed Michael O'Leary ar y llafnau, eu dangos i'r rheithgor

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron

Cafodd lluniau o beiriant forklift eu dangos i'r rheithgor - peiriant y mae'r erlyniad yn ei honni y defnyddiodd Mr Jones i symud corff Mr O'Leary. Dangosodd y lluniau farciau tywyll ar ochrau ffyrc y peiriant - ardaloedd lle'r oedd "marciau cyffwrdd" wedi digwydd meddai Miss Morse - sydd yn golygu fod "gwaed rhywun wedi cyffwrdd ffyrc y tryc".

Dywedodd y byddai'n annhebygol fod gwaed wedi "diferu" ar y ffyrc hynny.

"Yn fy marn i", meddai Ms Morse, "nid oes modd esbonio presenoldeb y gwaed wrth ddweud fod Mr O'Leary wedi bod gerllaw, neu o gael ei waed arno."

Ychwanegodd fod deunyddiau glanhau wedi eu darganfod mewn carafán statig ar fferm Cincoed, ynghyd â chrys-t oedd gyda gwaed arno.

Marciau gwaed

Clywodd y llys fod gwaed wedi ei ddarganfod ar feic ar y fferm hefyd. Roedd y marciau gwaed "biliwn gwaith yn fwy tebygol" o fod yn waed Mr O'Leary na neb arall oedd heb gysylltiad ag o.

Yn ôl Ms Morse roedd hyn yn darparu "cefnogaeth hynod o gryf i'r ddamcaniaeth fod y marciau gwaed wedi dod o Michael O'Leary".

Dywed yr erlyniad fod Mr Jones wedyn wedi ceisio cuddio'r hyn yr oedd wedi ei wneud drwy barcio car Mr O'Leary ger Afon Tywi a cherdded tua'r afon yn gwisgo ei esgidiau rhedeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Jones yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn

Yna fe feiciodd yn ôl i'r fferm cyn cludo'r corff i'w gartref yn Heol Bronwydd a'i losgi, medd yr erlyniad.

Dangoswyd lluniau i'r rheithgor o hen gynhwysydd olew yng nghartref Mr Jones , ynghyd â darn o feinwe dynol tu mewn iddo.

Gwelodd y rheithgor lun hefyd o farciau gwaed ar jîns o ystafell wely Mr Jones.

Mae'r achos yn parhau.