Teyrnged i fachgen 'penderfynol, tawel a dawnus'

  • Cyhoeddwyd
Ethan RossFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae teulu bachgen 17 oed a fu farw wedi gwrthdrawiad ar A55 penwythnos diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Ethan Ross, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dinbych, mewn ysbyty yn Stoke ddydd Llun, ble cafodd ei gludo mewn hofrennydd yn dilyn y gwrthdrawiad ddydd Sadwrn.

Roedd ei sgwter mewn gwrthdrawiad â cherbyd Vauxhall Astra ar lôn ddwyreiniol y ffordd ger y gyffordd â Pharc Busnes Llanelwy.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad ei fod yn fachgen "hardd, anhunanol, caredig, gofalgar, penderfynol, tawel, dawnus" oedd "yn gwneud i ni fyrstio gyda balchder bob un diwrnod".

Ychwanegodd y datganiad: "Does dim digon o eiriau i ysgrifennu gymaint rydym am ei golli. Bydd y byd yn le tlotach hebddo. Bydd yn arwr i ni am byth."

Mae Clwb Pêl-droed Dinbych hefyd wedi rhoi teyrnged, gan ddweud ei fod yn aelod "poblogaidd" o'r garfan datblygu ers arwyddo i'r clwb yn 16 oed.

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n ymchwilio i'r achos, ac yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu gynnig lluniau dash cam.