Y 'normal newydd' ar lawr y dosbarth: profiad athro

  • Cyhoeddwyd
Alan Thomas-WilliamsFfynhonnell y llun, Alan Thomas-Williams

Mae bron i hanner blwyddyn ers i fywyd ysgol arferol ddod i stop sydyn ar gychwyn y cyfnod clo. Mae'r plant a'r athrawon wedi bod yn raddol ddychwelyd at eu dosbarthiadau ers dechrau'r mis.

Ond sut brofiad yw dysgu plant sy' wedi bod allan o addysg ffurfiol ers bron i chwe mis?

"Twmpath ar y ffordd" fydd y cyfnod wrth edrych yn ôl meddai Alan Thomas-Williams, athro cynradd yn Ysgol Gymraeg Treganna, Caerdydd, sy'n rhannu ei brofiadau o lawr y dosbarth gyda Cymru Fyw.

Wrth ailagor y drysau ar ddechrau'r mis, cymysgedd o gyffro ac anscirwydd oedd ar feddyliau'r athrawon a'r plant.

Cyffro am gael dychwelyd at yr hyn sy'n gyfarwydd; dosbarthiadau'n llawn hwyl, dysgu creadigol a phlant yn mwynhau. Ansicrwydd ar y llaw arall wrth bendroni, beth mewn gwirionedd fyddai'r normal newydd mewn ysgol?

Y dyddiau cyntaf

I gychwyn efallai roedd un neu ddau yn ei gweld yn anodd ailgartrefu, eistedd mewn cadair a ffocysu a'r mwyafrif yn chwilio am gloc, holi "pryd ga'i egwyl?", "ga'i snac", "oes rhaid i fi wneud hwn?".

Ond i'r mwyafrif mae hyn wedi pasio.

Mae sgiliau pensil hynod ddiddorol wedi ffeindio'u ffordd i'r dosbarth hefyd. I'r rhai hynny sy'n gweld hi'n anodd cyfarwyddo, byddwn yn dychwelyd at yr hen ddulliau o siartiau canolbwyntio, amseryddion a digon o seibiannau symud.

Yr addysg

Cafodd pob plentyn brofiad gwahanol yn ystod y cyfnod clo; rhai yn dilyn gwersi eu hathrawon yn ddiwyd, rhai yn gweithredu 'ysgol Mam neu Dad' tra bod eraill am resymau tu hwnt i reolaeth y plentyn heb godi llyfr o gwbl efallai.

Ac felly ar gychwyn y tymor, roedd pwyslais mawr ar les y plant, cyfleoedd i drafod ac i ddod i nabod eu ffrindiau unwaith eto; i setlo ac i gofio sut i fod mewn dosbarth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

I gychwyn, roedd y dyddiau'n anghyfarwydd o hir, amser bwyd yn ôl ar amser penodol, eistedd mewn sedd yn artaith i rai a chofio nad oes siarad cyson fel yn ysgol bwrdd y gegin.

Yn amlwg roedd rhai yn bryderus o fod yn ôl allan o'u cylch bach teuluol tra bod eraill yn berwi gyda bwrlwm.

Ond nawr bod ein disgyblion wedi ymgartrefu, daw'r gwaith o asesu, o lenwi bylchau yn yr addysg ac, i nifer, i fynd i'r afael unwaith eto â'r iaith Gymraeg.

Bydd pob ysgol yn wynebu heriau gwahanol, ond yn sicr i ysgolion Cymraeg y brifddinas bydd ffocws ar yr iaith yn hanfodol.

Yn fathemategol mae mynd chwe mis heb gymorth athro wedi gweld dulliau'n cael eu hanghofio, rhifau'n gwyrdroi a mwy o ansicrwydd. Ond wrth gwrs, dyma beth yw ysgol ym mis Medi: ailgydio, atgoffa, ailddysgu a rhoi'r plant yn ôl ar ben ffordd. Ydy hyn wir mor wahanol?

Trefn newydd

Tra bod y mwyafrif o blant yn gweld ysgol heb fawr o newidiadau, mae cynllunio, paratoi a hyblygrwydd athrawon a thimoedd arwain wedi bod yn hanfodol i sicrhau hynny.

Eisoes mae systemau newydd ar waith, pob un â'i sialens:

  • Amseroedd cychwyn ar wasgar, cyfarfodydd ar-lein a dyletswyddau iard dyddiol sy'n lleihau ar gyfleoedd cyd-weithio a thrafod ymysg staff.

  • Does dim cyswllt wyneb-i-wyneb â rhieni, sy'n golygu meithrin perthynas gynnes â'r teulu trwy ddulliau newydd.

  • Gan na allwn rannu llyfrau gyda'r cartref mae cyflenwad electronig angen ei dyfu'n sydyn.

  • Ar lawr ydosbarth mae grwpiau llai, mwy o ddysgu yn yr awyr agored a gweithdrefnau golchi dwylo yn cyfyngu yr amser dysgu.

  • Gyda diheintio yn rhan hanfodol o orffen unrhyw dasgau ymarferol, mae diwedd dydd bellach yn golygu gwaith glanhau cyn gallu meddwl am y camau nesaf.

Ond i feddwl ble'r oedden ni cyn yr haf, mae hyn yn wyrthiol. Rhaid cofio, does neb wedi gwneud hyn o'r blaen ac felly does dim 'arfer orau' i'w ddilyn.

Fel proffesiwn rydyn ni'n ceisio gosod systemau sy'n gweithio i'n hysgolion ni, a phob ysgol yn ffeindio'i llwybr ei hun. Bydd rhai yn gweithio'n syth tra bod eraill yn datblygu'n naturiol gan ymateb i anghenion ein disgyblion a'n cymunedau.

Y feirws ar dwf

Dyw hi ddim yn bosib osgoi'r arwyddion y bydd hi'n aeaf gwahanol iawn. Eisoes mae ysgolion ledled Cymru yn gyrru dosbarthiadau a blynyddoedd adref i hunan ynysu a phob annwyd wrth reswm yn lleihau niferoedd staff.

Yn sicr bydd cyfnodau adref a chanlyniadau profion i'w haros. Ond yn bersonol rwy'n cymryd hyder o glywed am y cau a'r ynysu: onid yw hyn yn dangos bod y system yn gweithio? A'r tro hwn wrth gwrs bydd systemau gweithio gartref yn eu lle.

Mae sgiliau Technoleg Gwybodaeth pob un ohonom wedi gwella ac ar ôl hyn mi fydd defnydd TGCh wedi ei wreiddio yn yr addysg yn well nag erioed.

Dros y cyfnod hefyd rydym wedi dod i feithrin perthnasau da gyda'n teuluoedd bregus ble bo modd ac mi fydd hyn yn cynnig model i ni ac arfer dda i'w dilyn yn y dyfodol.

Fel athro ysgol cynradd dwi'n hyderus iawn y byddwn yn gallu tywys y disgyblion trwy'r gwaethaf o'r ail don pan ac os y daw.

Ond fel dinesydd dwi yn poeni'n ddirfawr am y rhai hynny o deuluoedd bregus a'r rhai hynny sy' eisoes wedi colli allan ar flynyddoedd hanfodol eu haddysg: plant Blwyddyn 7 na chafodd gyfle i bontio i'r uwchradd; plant Blwyddyn 11 sy' ond prin pum mis mewn i gyrsiau TGAU a'r plant Lefel A yn debyg iawn hefyd.

Effaith hir-dymor

Yn sicr bydd cenhedlaeth o blant yn cofio'r cyfnod clo am resymau amrywiol; rhai positif a rhai negyddol, dim gwahanol i ni. Yn sicr mae bylchau ar hyn o bryd i'w llenwi yn eu haddysg.

Yn sicr mae rhai yn dal i ddod yn gyfarwydd â bod yn ôl yn y dosbarth. Ond dwi'n gynyddol hyderus dros y bythefnos ddiwethaf mai twmpath ar y ffordd fydd y cyfnod wrth edrych yn ôl.

Hefyd o ddiddordeb