Cwestiwn ac ateb: Mwy o bwerau i'r DU ar draul Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford a Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

A fydd mwy o bwerau yn gadael Mark Drakeford ac yn mynd i Boris Johnson?

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryder am fesur drafft newydd a fyddai'n rhoi mwy o rym i Lywodraeth y DU wario ar gynlluniau yng Nghymru.

Mae'r bil - a fyddai'n troi'n gyfraith gyda digon o gefnogaeth gwleidyddion - yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher.

Fe fyddai'r gyfraith yn trosglwyddo grymoedd o'r Undeb Ewropeaidd i Lywodraeth y DU i wario ar ardaloedd fel isadeiledd, diwylliant a chwaraeon.

Dyma atebion i rai o'r cwestiynau amlwg sydd wedi codi yn sgil y cyhoeddiad...

A yw hyn yn golygu y gallai Llywodraeth y DU adeiladu ffordd liniaru'r M4?

Nid yw mor syml â hynny. Byddai Llywodraeth y DU yn rhoi pwerau seilwaith i'w hunain, ond byddai angen caniatâd cynllunio lleol arnyn nhw o hyd i adeiladu ffordd enfawr fel hon. Ond byddai'n rhoi'r pŵer iddyn nhw ei ariannu.

Mae'r un peth yn wir am brosiectau seilwaith mawr eraill. Gan fod y rhan fwyaf o gynllunio yng Nghymru wedi'i ddatganoli, mae'n gweithredu'n genedlaethol trwy Lywodraeth Cymru ac yn lleol trwy Awdurdodau Cynllunio Lleol.

Faint mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod am ei wario yng Nghymru?

Mae hyn yn dal yn aneglur. Nid yw'r bil hwn yn nodi'n union pa gronfeydd Llywodraeth y DU fydd yn disodli rhai'r UE - mae'n debyg y daw hynny'n yr hydref - ond mae'n rhoi pŵer i'r DU eu gwario.

Roedd Cymru wedi bod yn gymwys am £375m y flwyddyn o gronfeydd yr UE. Ymrwymodd maniffesto'r Ceidwadwyr yn etholiad 2019 i gyfateb cronfeydd yr UE â phob un o'r pedair gwlad "o leiaf" - ond bydd yn rhaid i ni aros i weld a ydyn nhw'n cadw at yr addewid hwnnw.

A yw hyn yn golygu na all Llywodraeth Cymru wario ar bethau fel diwylliant, chwaraeon a datblygu economaidd mwyach?

Na - maen nhw'n dal i allu gwneud hynny. Ond y rheswm y mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o "ddwyn pwerau" yw oherwydd ei bod hefyd yn rhoi pŵer i Lywodraeth y DU wario ar y meysydd hyn, nad ydyn nhw wedi gallu gwneud ers datganoli.

Yn flaenorol, roedd yr UE a Llywodraeth Cymru yn rheoli cyllid yr UE yn y meysydd hyn. Ond mae Llywodraeth y DU yn honni nad ydyn nhw'n cymryd unrhyw bwerau i ffwrdd ond eu bod nhw'n disodli rhaglenni'r UE yn unig.

A yw hynny'n golygu y bydd Llywodraeth Cymru'n cael llai o arian gan Lywodraeth y DU?

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 na fyddai gwariant Llywodraeth y DU yn yr ardaloedd hyn yn dod o grant bloc Cymru.

Dyna'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael gan Drysorlys y DU i'w wario ar feysydd datganoledig fel iechyd, addysg a datblygu economaidd.

Ond dywedon nhw y byddai pwerau gwariant yn cael eu "trafod" yn adolygiad gwariant nesaf Llywodraeth y DU - mae hynny'n penderfynu faint sydd yn y grant bloc.

A all Llywodraeth Cymru atal hyn rhag digwydd?

Mae'r gyfraith arfaethedig hon wedi wynebu gwrthwynebiad gan lywodraethau datganoledig.

Mae'r Senedd yn San Steffan yn dal i fod yn sofran - sy'n golygu mewn theori gall San Steffan basio deddfau ar gyfer pob rhan o'r DU gan gynnwys meysydd polisi datganoledig.

Ond ni fydd Senedd y DU fel rheol yn deddfu yn y meysydd hyn heb gydsyniad deddfwrfiaethau datganoledig gan gynnwys Senedd Cymru. Ond nid yw'r confensiwn hwn, a elwir yn gonfensiwn Sewel, yn gyfreithiol rwymol - er ei fod yn cael ei gydnabod yn ôl y gyfraith, nid yw'n atal Senedd y DU rhag deddfu ar gyfer y DU gyfan.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae bil yn gyfraith ddrafft. Nid yw'n dod yn gyfraith nes iddo gael ei bleidleisio trwy Dŷ'r Cyffredin gyda mwyafrif.

Bydd yn mynd trwy nifer o ddadleuon - ac o bosib yn cael 'diwygiadau' (darnau wedi'u hychwanegu neu eu cymryd i ffwrdd) - cyn cyrraedd y cam olaf i ddod yn gyfraith.

Ond mae gan lywodraeth bresennol y DU fwyafrif o 80 AS yn Nhŷ'r Cyffredin - gan olygu, oni bai bod rhai o'u ASau eu hunain yn gwrthryfela, ei bod yn haws iddyn nhw basio deddfau newydd.