Dyn, 44, wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A55

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar yr A55 yn ystod oriau mân fore Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ffordd ddeuol, yn ardal Llaneurgain, ychydig cyn 01:00.

Dywedodd y Rhingyll Emlyn Hughes o Uned Heddlu'r Ffyrdd: "Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad wrth i gar Vauxhall Astra daro i mewn i gerbyd Vauxhall arall a oedd wrthi'n cael eu symud oddi ar y ffordd ar ôl iddo dorri i lawr."

"Yn anffodus bu farw dyn 44 oed o ganlyniad i'r digwyddiad. Mae ei deulu wedi cael gwybod.

"Rydyn ni'n apelio ar i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd a lluniau dash-cam, i gysylltu â ni."