Dechrau ar y gwaith o warchod wal Cofiwch Dryweryn

  • Cyhoeddwyd
Nathan Goss a gweithiwr o flaen y walFfynhonnell y llun, Elin Jones/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith o adfer y wal yn cael ei arwain gan Nathan Goss, gyda chymorth gweithwyr lleol

Flwyddyn wedi i'r wal yn Llanrhystud, sydd a'r geiriau 'Cofiwch Dryweryn' wedi ei beintio arni, gael ei brynu, mae'r gwaith o'i hadfer wedi dechrau.

Fe gadarnhaodd aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones AS, y bydd y wal yn Llanrhystud yng Ngheredigion yn cael ei hadnewyddu gan ddefnyddio technegau traddodiadol.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r wal, sydd ar ochr ffordd yr A487 i'r de o Aberystwyth, wedi cael ei difrodi sawl gwaith.

Bwriad y perchennog newydd, Dilys Davies, drwy'r brynu'r safle oedd trosglwyddo'r murlun eiconig i ofal elusen er mwyn sicrhau ei bod "yn hollol saff am byth".

"Mae'n gyffrous iawn bod y gwaith wedi dechre yr wythnos hon", meddai Elin Jones.

Ffynhonnell y llun, @jezb
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gofeb ei difrodi gan fandaliaid ym mis Ebrill 2019

"Ry ni'n falch bod na arbenigwr lleol, Nathan Goss, yn arolygu'r gwaith ac mai contractwyr lleol, sy'n gyfarwydd a'r maes treftadaeth, fydd yn ymgymryd a'r dasg."

Y cam cyntaf i'r tîm oedd torri mieri a choed ynn oedd yn tyfu naill ochr y wal, a'r tu ôl iddi, yn ogystal a chodi sgaffald.

"Wrth wneud y gwaith coed fe ddarganfyddo'n nhw eu bod nhw wedi dechrau pydru am eu bod nhw'n dioddef o'r haint Ash dieback, felly roedd yn anochel y byddai'n rhaid iddyn nhw ddod i lawr.

"Y cynllun nawr ydy i godi clawdd newydd ac ail-blannu rhyw gymaint yn ogystal a diogelu'r wal ei hun."

Ffynhonnell y llun, Elin Jones/Facebook
Ffynhonnell y llun, Elin Jones/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Roedd arwyddion o haint yn y coed ynn oedd y tu ôl i'r wal

Dros yr wythnosau nesaf fe fydd y wal yn cael ei ail-bwyntio gyda chalch, a bydd y wal yn cael ei chodi'n uwch hefyd gan ddefnyddio rhai o'r cerrig a oedd wedi syrthio oherwydd difrod dŵr.

"Mae'r artist o Aberystwyth, Rwth Jên, wedi cytuno i ail-greu peintiad y geiriau unwaith bydd y gwaith o adfer y wal wedi ei gwblhau," meddai Elin Jones, "felly fe fydd e'n debyg i'r hyn 'da ni'n gyfarwydd ag e.

"Fyddwn ni ddim yn rhoi rhyw blastig drosto fe wedi hynny, felly bydden ni'n mawr obeithio na fydd neb yn ei ddifrodi eto, yn enwedig o ystyried yr ymdrech a'r arian sydd yn cael ei wario ar ddiogelu'r safle i'r genedl.