Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth ym Mangor
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd yr Orsaf ym Mangor nos Sadwrn
Mae Heddlu'r Gogledd yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth dyn ifanc ym Mangor, nos Sadwrn.
Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau am gythrwfl y tu allan i Westy'r Waverley, Heol yr Orsaf, ac fe ddaethon nhw o hyd i ddyn lleol 20 oed a oedd wedi dioddef anafiadau.
Cafodd y dyn ei drin gan swyddogion yr heddlu a pharafeddygon, ond bu farw'n ddiweddarach yn yr ysbyty.
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Nick Evans: "Cafodd dyn lleol ei arestio yn y fan a'r lle ac mae e ar hyn o bryd yng ngofal yr heddlu.
"Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi cychwyn ac mae'r crwner wedi cael gwybod.
"Mae ein meddyliau gyda'r teulu, sydd yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol."