Ceiswyr lloches yn dechrau cyrraedd cyn wersyll milwrol
- Cyhoeddwyd
Mae ceiswyr lloches wedi dechrau cyrraedd cyn-wersyll milwrol yn Sir Benfro, er gwaethaf pryderon yn lleol fod yna ddiffyg ymgynghori ynghylch y cynllun.
Mewn llythyr wedi'i gyfeirio at drigolion lleol, fe gadarnhaodd yr AS lleol - Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart - y bydd Gwersyll Hyfforddi Penalun yn gartref dros dro i 250 o ddynion.
Dywedodd bod yna ddyletswydd i gydymffurfio â gofynion yr Undeb Ewropeaidd o ran derbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches nes y bydd y DU wedi gadael yr undeb yn gyfan gwbl.
"Trefniant dros dro yw hyn, gyda'r hawl gan y Swyddfa Gartref i ddefnyddio'r safle am hyd at 12 mis," meddai Mr Hart yn y llythyr.
Gwelodd ohebwyr BBC Cymru nifer o bobl ar y safle fore Mawrth - dynion, oll - yn cludo nwyddau ac offer cysgu.
Roedd yna hefyd bresenoldeb heddlu amlwg wedi i brotestwyr geisio rhwystro mynediad i'r gwersyll nos Lun.
Ond mae pobl leol wedi mynegi pryder mai unigolion o du hwnt i'r ardal sy'n arwain y protestiadau.
Dywedodd un dyn, nad oedd eisiau gael ei gyfweld: "Mae pobl sy'n byw yma wedi cynhyrfu llai amdano erbyn hyn.
"Maen nhw yma ac mae'n rhaid i ni dderbyn hynny, ond dylien ni wedi cael mwy o wybodaeth ynghylch beth sy'n digwydd.
"Does dim ymgynghori cymunedol wedi bod o gwbl."
'Rhydd i adael'
Mae llythyr Mr Hart - AS Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Phenfro - yn cynnwys atebion y Swyddfa Gartref i nifer o gwestiynau ynghylch y penderfyniad i ddefnyddio safle Penalun.
Mae'r atebion yn datgelu bod yr unigolion sy'n cael eu danfon yno "ddim yn cael eu cadw, ac felly'n rhydd i adael y safle petawn nhw'n dymuno".
Mae yna drefniadau i ddiogelu'r safle ac i fonitro pwy sy'n cyrraedd a gadael. Ond gan y bydden nhw'n derbyn eu holl brydau a gwasanaethau lles yno, dyw'r Swyddfa Gartref ddim yn rhagweld llawer o resymau dros adael y safle.
Bydd yr awdurdod lleol yn derbyn treth cyngor mewn cysylltiad â'r safle, a bydd modd i'r heddlu geisio am gyllid i dalu'u costau. Mae'r Swyddfa Gartref yn darparu gwasanaethau iechyd yno er mwyn osgoi defnyddio adnoddau lleol.
Does "dim safleoedd pellach wedi eu nodi yng Nghymru" ar hyn o bryd, ond eu bod "yn parhau i archwilio angen potensial am ragor o opsiynau brys ar draws y DU";
Dywed y Swyddfa Gartref eu bod "yn anffodus, heb allu ymgynghori yn y modd arferol" am fod rhaid gweithredu ar frys.
Dywedodd Mr Hart fod y Swyddfa Gartref "â phwerau cyfreithiol eang yn y maes polisi hwn".
Ychwanegodd bod angen i'r awdurdodau lleol ganolbwyntio "ar leihau'r effaith yn lleol" i osgoi "cynyddu'r posibilrwydd o densiynau ac amharu'u gallu i fynd i'r afael â phryderon".
'Llety priodol sy'n arbed arian cyhoeddus'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Yn y cyfnod digynsail hwn, rydym wedi gweithio'n ddiflino gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddarparu llety priodol i geiswyr lloches fyddai fel arall wedi bod yn amddifad - fel y mae gofyn i ni wneud yn gyfreithiol.
"Yn dilyn trafodaeth fanwl gydag awdurdodau lleol, bydd rhai ceiswyr lloches nawr yn cael eu cartrefu mewn llety brys yng Nghaint a Sir Benfro, wedi'i ddarparu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
"Bydd hyn yn lliniaru'r ddibyniaeth ar westai ac yn sicrhau arbedion o hyd at 50% i drethdalwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020