Annog pobl i wisgo mygydau yn ysbytai'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
mwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae bwrdd iechyd y gogledd yn annog cleifion, ymwelwyr a staff ar safleoedd y GIG i wisgo mygydau ar ôl cynnydd mewn achosion Covid-19.

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod nifer yr achosion positif yn y gogledd yn isel ond fod Wrecsam wedi gweld cynnydd.

Mae'r bwrdd iechyd yn annog pobl i beidio ag ymweld ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam oni bai bod hynny'n "angenrheidiol".

Dywedodd y bwrdd ei fod bellach yn gofyn i staff, cleifion ac aelodau'r cyhoedd sy'n dod i mewn i holl safleoedd y gwasanaeth iechyd i wisgo masgiau wyneb.

Mae hyn yn berthnasol i bobl sy'n dod i mewn i "fannau cyhoeddus" ar gyfer apwyntiadau, llawfeddygaeth a thriniaeth frys yn Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych, Ysbyty Gwynedd ym Mangor a Wrecsam Maelor.

Mae hefyd yn cynnwys adeiladau eraill sy'n cael eu rheoli gan y bwrdd iechyd, gan gynnwys ysbytai cymunedol a meddygfeydd.

Beth ydy canllawiau'r llywodraeth?

O ddydd Llun, 27 Gorffennaf bydd gorchuddion wyneb tair haen yn orfodol ar bob trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru - bysiau, trenau a thacsis.

Ar hyn o bryd mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud, er y dylai meddygon a nyrsys a darparwyr gofal wisgo mygydau meddygol wrth drin cleifion, nid oes angen i gleifion sy'n mynychu apwyntiadau cleifion allanol ac ymwelwyr wisgo gorchuddion wyneb.

Ond dywedodd Gill Harris, cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth, y byddai'r holl staff, cleifion ac ymwelwyr yn cael eu "hannog i wisgo masgiau" yng ngogledd Cymru.

Hyd yma, mae 375 o bobl yn ardal y bwrdd iechyd, sy'n cynnwys gogledd Cymru gyfan, wedi marw gyda coronafeirws - y nifer uchaf o unrhyw ardal yng Nghymru.

Beth ydy'r ffigyrau diweddaraf?

Yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sadwrn, roedd 30 achos positif newydd o Covid-19 yng Nghymru.

Roedd 16 o'r rhain yng ngogledd Cymru gyda 11 yn Wrecsam.

Ni chafodd unrhyw farwolaeth ei nodi yn y ffigyrau diweddaraf.

Mae gan Wrecsam y nifer ail uchaf o achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru, y tu ôl i Merthyr Tudful.

Dywedodd Ms Harris er bod nifer yr achosion ledled gogledd Cymru yn isel ar hyn o bryd, roedd Wrecsam wedi gweld cynnydd.

Daw hyn ar ôl i 237 o achosion gael eu cysylltu â ffatri Rowan Foods yn y dref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o staff Ysbyty Maelor Wrecsam yn gwisgo mygydau

"Mae Covid-19 yn heintus iawn a gall fod yn heriol atal y feirws rhag lledaenu ac er ein bod wedi cymryd ystod o gamau, rydym yn apelio ar y cyhoedd am eu cefnogaeth gan fod gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth atal lledaeniad haint," meddai Ms Harris.

"Gofynnwn i'n cymunedau barhau i gynnal hylendid dwylo da ac arsylwi canllawiau pellhau cymdeithasol."

Dywedodd Ms Harris y byddai mwy o fanylion am ddefnyddio masgiau wyneb yng ngogledd Cymru yn y dyddiau nesaf.