'Pobl sy'n caru ffrwydron ddim o reidrwydd yn bobl ddrwg'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o fod â ffrwydron ac arfau cemegol ar ei fferm yn Nhrimsaran wedi dweud wrth reithgor bod "pobl sy'n caru ffrwydron ddim o reidrwydd yn bobl ddrwg".
Cafodd Russell Wadge, 58, ei gyhuddo ar ôl i heddlu gwrthderfysgaeth gynnal cyrch ar ei gartref ym mis Mehefin 2019.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd y byddai'r stoc sylweddol o gemegau oedd ar ei eiddo, "wedi eu rhoi at ei gilydd yn gallu lladd neu anafu".
Mae Mr Wadge yn gwadu 28 cyhuddiad o fod â ffrwydron ac arfau cemegol yn ei feddiant.
'Bron wedi lladd fy hun'
Ar ddechrau ei amddiffyniad dywedodd y diffynnydd ei fod wedi dysgu sut i wneud ffrwydron o hen setiau radio pan yn bump oed, a'i fod "bron wedi lladd fy hun" wrth greu "bom ffug" pan yn 12.
Gwadodd mai ei fwriad oedd achosi niwed i unrhyw un, gan ddisgrifio ffrwydron fel rhywbeth sydd wedi bod o ddiddordeb iddo erioed.
Ychwanegodd Mr Wadge nad oedd yn ymwybodol bod y gyfraith wedi newid yn 2016 i atal pobl rhag bod yn berchen ar y cemegyn cyanide.
Dywedodd ei fod wedi cadw cyanide yn ei gartref ers 25 mlynedd, a bod hynny'n dangos nad oedd yn bwriadu "eu defnyddio ar gyfer ymosodiad terfysgol".
Ychwanegodd bod rhai o'i ffrwydron yn "brydferth", ond na fyddai'n eu defnyddio er bod ganddo'r gallu i wneud hynny.
"Popeth rydw i wedi eu casglu ers 1995 - rydw i wedi llwyddo i fynd ers hynny heb eu defnyddio nhw na lladd unrhyw un," meddai.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2019