Non Evans yn osgoi carchar am alwadau 999 ffug
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol wedi cael dedfryd o garchar wedi ei ohirio am wneud galwadau 999 ffug o'i chartref yn Abertawe.
Fe wnaeth Non Evans, 46, chwarae dros 80 o gemau i Gymru, ac fe wnaeth hefyd hefyd gynrychioli'r wlad mewn jiwdo, codi pwysau a wreslo.
Roedd Evans wedi cyfaddef pedwar cyhuddiad mewn gwrandawiad blaenorol: un o ddefnyddio ymddygiad bygythiol a thri o gyfleu gwybodaeth oedd ddim yn wir.
Clywodd y llys ei bod mewn "lle tywyll iawn", a dywedodd Ynadon bod angen iddi gydweithio gyda'r gwasanaeth prawf er mwyn taclo ei phroblem gydag alcohol.
Galwadau ffôn
Clywodd Llys Ynadon Abertawe bod yr heddlu wedi dod o hyd iddi yn gorwedd ar y ffordd wrth ymyl ei chartref ym mis Awst, ac ar ôl gweiddi'n fygythiol ar ei chymdogion daeth yn ôl allan o'i thŷ gan chwifio cyllell.
Y diwrnod canlynol aeth yr heddlu yn ôl i'w chartref a'i darganfod yn gorwedd ar lawr ar y ffôn.
Clywodd y llys ei bod wedi gwneud dwy alwad ffôn i'r Gwasanaeth Ambiwlans yn dweud bod cleifion ddim yn gallu anadlu.
Pan ddaeth swyddogion i'w thŷ fe wnaeth Evans geisio gafael yn y camerâu roeddent yn eu gwisgo a chynnig arian iddynt i "gadw'n dawel" am y digwyddiad.
Dywedodd wrth yr heddlu ei bod eisiau "sylw", ac fe wnaeth hi gyfaddef ei bod wedi yfed hanner botel o fodca.
'Twll mawr' ar ôl ymddeol
Dywedodd ei chyfreithiwr, Stuart John, bod Evans "ar goll" ac yn ei chael hi'n anodd dod i delerau gyda bywyd ar ôl ymddeol o chwaraeon rhyngwladol.
Roedd "twll mawr" yn ei bywyd gan achosi iselder, gorbryder a chamddefnydd o alcohol.
Mae'r cyfnod clo wedi gwneud ei phroblemau yn waeth meddai, am nad yw hi wedi gallu mynychu sesiynau cwnsela wyneb yn wyneb.
"Mae hi mewn lle tywyll iawn," meddai.
Dywedodd yr Ynadon fod yr hyn a wnaeth wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau argyfwng oedd yn barod o dan straen, a'i fod mor ddifrifol nes bod cyfiawnhad o ddedfryd o garchar.
Roedd Evans mewn dagrau pan gafodd wybod y byddai ei dedfryd o naw wythnos dan glo yn cael ei ohirio am 12 mis.
Cafodd orchymyn adferiad ac fe fydd yn gorfod talu costau o £213.