Plaid Cymru yn 'paratoi'r ffordd at annibyniaeth'

  • Cyhoeddwyd
Bu miloedd mewn gorymdeithiau annibyniaeth yn 2019Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu miloedd mewn gorymdeithiau annibyniaeth yn 2019

Mae'r grŵp sydd wedi cael ei benodi gan Blaid Cymru i baratoi'r ffordd ar gyfer annibyniaeth yn dweud y dylid cynnal dau refferendwm ar le Cymru yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol.

Y cyn-AS Elfyn Llwyd sy'n arwain y Comisiwn Annibyniaeth a dywed bod yn rhaid cael refferendwm "aml-ddewis" er mwyn canfod y farn ar draws Cymru.

Fe ddylai'r bleidlais honno gael ei defnyddio wedyn i berswadio llywodraeth San Steffan i gynnal refferendwm ar y dewis sy'n cael ei ffafrio, meddai.

Dywed Mr Llwyd bod yn rhaid i "Gymru ddeall yn iawn beth yw'r opsiynau".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru, medd yr adroddiad, ar y ffordd i fod yn genedl annibynnol

Cafodd y Comisiwn Annibyniaeth ei sefydlu gan Blaid Cymru er mwyn canfod sut y dylai'r blaid baratoi at gynnal refferendwm ar annibyniaeth, petai'n dod i rym yng Nghymru.

Dywed bod Cymru eisoes wedi dechrau ar y daith tuag at annibyniaeth gan bod ganddi Senedd a phwerau deddfu ei hun.

Ychwanegodd cadeirydd y Comisiwn, Elfyn Llwyd: "Daeth llawer o'n pobl yn ymwybodol am y tro cyntaf o'r manteision cadarnhaol sy'n deillio i Gymru o feddu ar ei sefydliadau democrataidd ei hun, y Senedd a Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Elfyn Llwyd yw cadeirydd y Comisiwn Annibyniaeth

Ychwanegodd: "Cred y Comisiwn mai annibyniaeth, fydd yn rhoi llawer mwy o reolaeth dros ein materion ein hunain, yw'r statws y dylai Cymru anelu ato.

"Mae pobl Cymru yn ganolog i'r broses annibyniaeth ac y mae angen iddynt ddeall yn glir pa ddewisiadau sydd ar gael o ran eu dyfodol gwleidyddol.

"Cyn refferendwm ar annibyniaeth, dylid sefydlu Comisiwn Cenedlaethol a Chynulliadau Dinasyddion cysylltiedig er mwyn sicrhau fod pawb yn ymwybodol, yn cymryd rhan ac yn ymwneud â'r broses."

Dadl yr adroddiad hefyd yw mai dim ond trwy annibyniaeth y gellir gwella economi Cymru yn llawn.

Dywed ymhellach "fod Cymru wedi methu â gwneud cynnydd economaidd nid oherwydd bod y wlad yn rhy fach nac yn rhy dlawd, ond am ei bod wedi ei chaethiwo mewn economi sydd wedi'i ogwyddo'n llethol tuag at fuddiannau dinas Llundain".

"Mae gwersi i'w dysgu o Iwerddon, oedd gynt yn un o rannau mwyaf ymylol a thlotaf y DU.

"Y mae bellach yn genedl hyderus, sicr ac annibynnol, un o rannau cyfoethocaf yr Ynysoedd hyn, gyda sedd yn y Cenhedloedd Unedig," ychwanegodd Mr Llwyd.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price: "Mae rhywbeth yn digwydd yng Nghymru. Mae'r gefnogaeth i annibyniaeth ar ei uchaf erioed. Mae ein cenedl ar gerdded a phobl yn deffro i'r syniad fod annibyniaeth yn bosib."

Arian

Dyw'r adroddiad ddim yn nodi pa arian y dylai Cymru annibynnol ei ddefnyddio.

Nodir er "bod gwledydd cyn lleied â Chymru, llai hyd yn oed, wedi dangos eu gallu i reoli'u cyrrensi eu hunain, byddai cyrrensi Cymreig yn gosod costau trafod ar fusnesau a wnâi gweithredu yng Nghymru yn llai cystadleuol na thros y ffin yn Lloegr".

"Fodd bynnag mae manteision o gael cyrrensi ar wahân, nid lleiaf y gallu i adbrisio fel y byddai'n addas i adlewyrchu newidiadau mewn cystadleurwydd, ond pe bai angen osgoi difrod ar y pryd i gwmnïau Cymreig byddai rhaid rhoi'r gorau i'r buddion hirdymor yma."

Pan ofynnwyd i etholwyr yn Yr Alban yn 2014 a ddylai'r wlad fod yn annibynnol, fe bleidleisiodd 55% yn erbyn.

Ond mae llywodraeth SNP yn Yr Alban wedi bod yn ymgyrchu dros gael ail bleidlais ers i'r DU benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd.