‘Un o'r cyfnodau anoddaf i fi fyw yma yn Jerwsalem’
- Cyhoeddwyd
"Bydd Yom Kippur yn ŵyl gwbl wahanol i fi eleni," medd Sarah Liss, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd, sydd bellach yn byw yn Jerwsalem.
"Fel Iddewes, dwi wrth fy modd gyda gwyliau sanctaidd Rosh Hashanah a Yom Kippur - un yn nodi y flwyddyn newydd Iddewig a'r llall yn ddydd y cymod - diwrnod lle ry'n ni fel arfer yn gweddïo mewn synagog yn gofyn am faddeuant."
Ond i Iddewon fel Sarah Liss mae eleni yn gwbl wahanol wrth i Brif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, osod cyfyngiadau pellach ar y wlad yn sgil mwy o achosion o Covid-19.
Ddydd Iau diwethaf cafodd mwy na 8,000 o achosion o'r haint eu cofnodi yn Israel - gwlad sydd bellach â mwy o achosion y pen nag unrhyw wlad arall yn y byd.
"Fel arfer ry'n ni'n treulio'r diwrnod yn y synagog ar ŵyl Yom Kippur," meddai Sarah.
"Y noson cynt bydden ni'n cael pryd mawr gyda'n teuluoedd cyn i ni orfod ymprydio. Eleni roedd Yom Kippur yn dechrau ar fachlud haul nos Sul (Medi 27) ac mae'n dod i ben ar fachlud haul nos Lun (Medi 28).
"Yn draddodiadol mae'n ddiwrnod arbennig iawn - pawb yn bwyta cawl cyw iâr a digon o carbohydrates ar y noson cynt i'n cynnal gydol y diwrnod.
"Mae'r diwrnod yn gyfle i rywun fyfyrio ar yr hyn y mae e'n bersonol wedi ei wneud gydol y flwyddyn, cyfle i feddwl beth y dylid fod wedi ei wneud yn well a chyfle i ofyn am faddeuant. Mae e wir yn ddechrau newydd a mae rhywun yn teimlo'n bur a glân.
"Rhaid gwisgo gwyn fel angylion - a does dim hawl gwisgo lledr. Yn wir does dim hawl gwneud dim byd - mae unrhyw weithred corfforol yn dod rhyngom ni a Duw.
"Mae yna ychydig o breaks oherwydd fel arfer ry'n ni yn y synagog drwy'r dydd ond mae pethau yn wahanol iawn eleni."
Bellach mae nifer o'r synagogau yn Israel wedi cau a dim ond rhyw 20 o bobl sy'n cael dod at ei gilydd yn yr awyr agored.
Dyw pobl chwaith ddim yn cael teithio yn bell o'u cartrefi.
"Y tebyg yw y bydd y rhan fwyaf o bobl fel fi yn addoli yn yr awyr agored, ond mae cyfyngiadau a does dim hawl gwahodd teulu estynedig i'r cartref," ychwanegodd Sarah.
'Cwympo mewn cariad â'r wlad'
Cafodd Sarah ei magu yn Nhreganna yng Nghaerdydd ac wedi gadael Ysgol Plasmawr aeth ar ei blwyddyn gap i fyw yn Jerwsalem. Mae ei rhieni yn parhau i fyw yng Nghymru.
"Pan ro'wn yn byw yng Nghaerdydd, arferwn addoli yn y synagog yng Nghyn-coed," meddai, "ond gan bo fi ddim wedi mynd i ysgol Iddewig roeddwn i'n teimlo bo fi angen gwybod mwy am Iddewaeth. Roeddwn i eisiau gwybod mwy am y Torah - y Beibl Iddewig a byw'r bywyd Iddewig.
"Pan es i am flwyddyn i Israel - doedd hi ddim yn fwriad gen i aros ond 'nes i wir gwympo mewn cariad â'r wlad a phenderfynu byw yma.
"Wedi'r flwyddyn gap pan ddysgais i Hebraeg, es i astudio optometreg. Dwi bellach yn briod ac mae gennym un bachgen ac mae babi arall ar y ffordd ymhen deufis.
"Ar ôl i fi ddod draw fe ddaeth fy nau efaill (sef fy mrawd a chwaer, Joshua a Malka) draw - ac mae nhw hefyd wedi aros yma.
"Dwi'n colli Caerdydd ac yn caru Cymru ond Israel yw'n cartref ni fel Iddewon ac yn amlwg mae'n haws bod yn Iddew yma nag yng Nghymru. Mae'r gwyliau Iddewig yn rhan o'r bywyd bob dydd a bwyd kosher."
Cacen fêl i gael blwyddyn well
Mae Sarah yn dweud bod ei ffrindiau yng Nghymru yn gofyn yn aml iddi am ddiogelwch Jerwsalem ond dywed nad yw hi erioed wedi cael trafferth.
"I ddweud y gwir rwy'n teimlo'n fwy saff yma nag yr oeddwn mewn rhannau o Gaerdydd ond mae 'na lefydd, wrth gwrs, ry'n yn cael ein cynghori i beidio mynd iddynt.
"Mae rhywun yn ymwybodol o wleidyddiaeth Israel ond i ddweud y gwir er bo ni'n cael tipyn o etholiadau dydw i byth yn siarad am faterion gwleidyddol.
"Yn yr ysbyty lle dwi'n gweithio ni'n checko a yw person yn Israeli neu'n Palestinian ond dyna'i gyd rili. Mae fy ffrind gorau i yn Balestiniad.
"Eleni yw un o'r cyfnodau anoddaf i fi fyw yma yn Jerwsalem. Mae Covid yn gyfnod anodd i ni gyd. Yn yr ysbyty lle rwy'n gweithio mae'r wardiau Covid yn orlawn ac ry'n ni'n gorfod gweithredu pob math o fesurau - mwy na Cymru i ddweud y gwir.
"Ro'dd Israel yn gwneud yn eitha da pan ddaeth y don gyntaf o Covid ond y tro yma rwy'n meddwl bod y gwleidyddion wedi bod yn araf iawn iawn yn ymateb ac mae gennym filoedd ar filoedd o achosion. Mae'r lockdown y tro hwn wedi bod yn rhy hwyr," ychwanegodd Sarah.
"Ydi mae'n hynod anodd - mae rhan fwyaf o'r synagogs ar gau a rydyn ni methu gweld ein teulu fel ry'n ni wedi arfer.
"Gan bo fi'n feichiog dwi i ddim yn gorfod ymprydio eleni ond dyw e ddim yr amser gorau i gael babi.
"Ro'n i wedi meddwl y byddai pethau wedi gwella erbyn hyn ac roeddem ni gyd yn edrych ymlaen at y gwyliau Iddewig.
"Ar ddiwrnod Rosh Hashanah mae'n arferiad gennym ni fwyta cacennau mêl i ddymuno am flwyddyn newydd felys - ydyn, ni wir yn gobeithio am gyfnod gwell."
Sarah Liss fydd yn arwain yr oedfa ar Radio Cymru, ddydd Sul, 4 Hydref.
Hefyd o ddiddordeb: