Cyfyngiadau mewn grym yng Nghaerdydd ac Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Dyn mewn masg ger Marchnad CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Caerdydd yw prifddinas gyntaf y DU i wynebu cyfyngiadau lleol llymach

Mae trigolion yn siroedd Caerdydd ac Abertawe yn byw gyda chyfyngiadau lleol a ddaeth i rym am 18:00 nos Sul er mwyn atal lledaeniad coronafeirws.

Caerdydd yw prifddinas gyntaf y DU i wynebu mesurau llymach.

Roedd Abertawe â chyfradd o 56 achos newydd o'r feirws i bob 100,000 o'r boblogaeth yn y saith niwrnod hyd at ddydd Gwener, ac roedd Caerdydd â 38 o achosion i bob 100,000.

Daeth mesurau tebyg i rym yn Llanelli nos Sadwrn wedi cynnydd sydyn yn nifer yr achosion yn y dref yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

'Amhosib diystyru ail cyfnod clo cenedlaethol'

Gyda'r cyfyngiadau eisoes mewn grym yn siroedd Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent a Chasnewydd, mae'n golygu y bydd bron i hanner poblogaeth Cymru - 1.5m o bobl yn gorfod addasu eu ffordd o fyw erbyn nos Sul.

Pan ofynnwyd a oes yna bosibilrwydd o ail cyfnod clo cenedlaethol, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford wrth raglen Politics Wales BBC Cymru: "Ni allwn ddiystyru hynny.

"Rydym yn ceisio ei wneud e mewn ffordd sy'n cydbwyso iechyd ac anghenion economaidd Cymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Mr Drakeford a'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi apelio ar drigolion y ddwy sir i beidio manteisio ar y 24 awr ychwanegol i gael "un parti olaf".

Yr un oedd neges AS Llafur Canol Caerdydd, Jo Stevens pan ddywedodd: "Petai pobl yn gwneud hynny, mae yna risg o gyfraddau heintiadau pellach a bydde hynny'n golygu ein bod yn byw dan gyfyngiadau am gyfnod hirach."

Awgrymodd Mr Gething ddydd Gwener eu bod wedi rhoi mwy o amser i drigolion Caerdydd ac Abertawe baratoi ar gyfer y newidiadau, gan fod yna fwy o bobl yn byw yno nag yn Llanelli.

Ar orsaf radio LBC ddydd Sadwrn, gofynnodd Mr Drakeford i bobl ymddwyn fel petai'r cyfyngiadau eisoes mewn grym.

Ond fe rybuddiodd: "Os mae yna bobl sydd yn amlwg yn torri'r gyfraith, yna mae'n rhaid gweithredu.

"Ie, gyda dirwyon os oes angen, ond i ni dyna'r cam olaf, nid y cam cyntaf."

Dan y rheolau llymach, does neb yn cael teithio i nag o'r ardaloedd dan sylw heb reswm "rhesymol".

  • Mae pobl yn cael gadael er mwyn mynd i weithio, os nad yw'n bosib gweithio o'u cartrefi, i fynd i'r ysgol, i roi gofal neu i brynu bwyd a nwyddau meddygol.

  • Dim ond yn yr awyr agored y mae pobl yn cael cwrdd â phobl sy'n byw mewn aelwyd arall, oni bai bod reswm da, fel gofalu am rywun agored i niwed.

  • Rhaid i bob safle trwyddedig beidio â gwerthu alcohol ar ôl 22:00.

  • Rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do, sy'n agored i'r cyhoedd, fel siopau, yn ogystal ag ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r rheol yma'n berthnasol ymhob rhan o Gymru, gyda rhai eithriadau.