Tair marwolaeth yn rhagor a 370 achos Covid newydd

  • Cyhoeddwyd
CoronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd tair marwolaeth yn rhagor eu cofnodi yng Nghymru yn y 24 awr ddiwethaf oedd yn gysylltiedig â Covid-19.

Cafodd dau o'r marwolaethau eu cofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a'r llall yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd fod 370 o achosion newydd wedi'u cofnodi.

Mae'n golygu fod cyfanswm y marwolaethau coronafeirws yng Nghymru ers dechrau'r pandemig yn 1,612 a chyfanswm yr achosion yn 22,584.

Roedd nifer uchaf yr achosion diweddaraf yn Rhondda Cynon Taf, sef 67, gydag Abertawe'n ail gyda 58.

Roedd yna 42 o achosion ym Mlaenau Gwent, 36 yng Nghaerdydd a 25 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Ym Mlaenau Gwent roedd y gyfradd uchaf o ganlyniadau Covid-19 positif sef 60.1 o fewn bob 100,000 o'r boblogaeth.

Mae ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru ond yn cynnwys marwolaethau mewn ysbyty yn dilyn canlyniad coronafeirws positif, a dydyn nhw ddim yn cynnwys marwolaethau cleifion o Bowys a fu farw mewn ysbytai yn Lloegr.

Canol Caerydd ym mis GorffennafFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfyngiadau lleol ar fin dod i rym yng Nghaerdydd - prif ddinas gyntaf y DU i wynebu'r fath fesurau

Mae cyfyngiadau lleol yn dod i rym yn Llanelli am 18:00 nos Sadwrn a bydd mesurau tebyg yn dilyn o 18:00 ymlaen nos Sul yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Mae trigolion chwe awdurdod lleol - Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent a Chasnewydd - eisoes yn gorfod dilyn mesurau penodol i atal lledaeniad y feirws.

Caerdydd fydd prifddinas gyntaf y DU i weld mesurau llymach ac mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi annog trigolion i ymddwyn fel petai'r cyfyngiadau eisoes mewn grym.

Dywedodd wrth orsaf radio LBC ddydd Sadwrn mai fel cam olaf yn unig y bydd yr heddlu'n gorfodi pobl i ddilyn y rheolau.

"Os mae yna bobl sydd yn amlwg yn torri'r gyfraith, yna mae'n rhaid gweithredu," dywedodd.

"Ie, gyda dirwyon os oes angen, ond i ni dyna'r cam olaf, nid y cam cyntaf."

Ddydd Sadwrn fe gadarnhaodd Cyngor Sir Ddinbych fod rhieni a gwarchodwyr disgyblion dau o ysgolion y sir wedi cael llythyrau'n rhoi gwybod fod achosion coronafeirws wedi eu cadarnhau yno.

Mae 60 o ddisgyblion a saith aelod staff Ysgol Bryn Hedydd, Y Rhyl wedi cael eu cynghori i hunan-ynysu tan 7 Hydref.

Mae chwe pherson - disgyblion a staff - wedi cael cyngor tebyg wedi i achos gael ei gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Prestatyn.