Mamau i gael gwybodaeth am fethiannau bwrdd iechyd
- Cyhoeddwyd
Bydd rhieni a gollodd fabanod newydd anedig, neu a gafodd eu heffeithio gan fethiannau mewn unedau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, yn cael gwybod am ganfyddiadau ymchwiliad annibynnol "o fewn yr wythnosau nesaf".
Mae'r ymchwiliad wedi bod yn edrych ar 160 o fethiannau.
Cafodd gwasanaethau mamolaeth mewn ysbytai ym Merthyr Tudful a Llantrisant eu rhoi o dan fesurau arbennig y llynedd.
Mae'r adroddiad diweddaraf yn nodi bod y gwasanaethau yn "ymdopi'n dda" a "bod tystiolaeth o gynnydd graddol, gyda 12 yn rhagor o argymhellion y Colegau Brenhinol wedi'u hawdurdodi yn ystod y cyfnod hwn".
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod y cynnydd yma'n "ganmoladwy o gofio'r pwysau sy'n deillio o COVID-19 ac mae'n dyst i waith caled ac ewyllys y staff".
Profiadau erchyll
Daeth methiannau yn yr unedau mamolaeth i'r amlwg wedi ymchwiliad gan ddau goleg brenhinol. Canfuwyd bod mamau wedi "wynebu profiadau erchyll a gofal sâl" rhwng 2016 a 2018.
Nodwyd hefyd bod y gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful yn "ofnadwy o ddiffygiol" ac o dan bwysau mawr.
Cafodd nifer o argymhellion eu nodi er mwyn gwneud y gwasanaeth yn fwy diogel i ferched beichiog a'r rhai oedd yn geni plant yn yr ysbytai.
Yn ddiweddarach fe wnaeth Llywodraeth Cymru benodi panel arbenigol i edrych ar yr achosion - yn eu plith marwolaethau babanod newydd-anedig.
Dywed Mark Giannasi sy'n cadeirio'r panel annibynnol: "Yn gynnar yn yr hydref byddwn yn dechrau ysgrifennu at famau er mwyn dweud wrthynt beth ry'n wedi ei ganfod am y gofal a gawsant yn yr ysbyty.
"Bydd hynny yn anodd iawn i lawer o ferched gan y byddant yn gorfod ailymweld â'r hyn ddigwyddodd.
"Ond mi fydd yn gyfnod anodd i staff hefyd. Ry'n yn gwybod bod adolygiadau y ddau goleg brenhinol wedi bod yn anodd iawn i staff - roedd rhai o'r negeseuon yn anodd ac yn heriol ac fe fydd yn rhaid iddynt eu clywed eto."
Ychwanegodd Mr Giannasi bod y gwasanaethau mamolaeth yn "ymdopi'n rhyfeddol o dda" ar waethaf y pandemig coronafeirws.
"Maent ar y llwybr iawn, maent yn gwneud yn dda ac ry'n yn hynod o falch o'r hyn y maent wedi ei gyflawni mewn cyfnod y tu hwnt i'w rheolaeth.
"Mae dal gwaith i'w wneud, mae yna 20 argymhelliad arall i'w cyflawni ac mae'r rhai hynny yn eithaf allweddol."
Wrth ymateb i ddatganiad y Panel a'r Gweinidog Iechyd dywedodd y gyfreithwraig Mari Rosser o gwmni Hugh James, sy'n cynrychioli rhai o'r teuluoedd:
"Rwy'n croesawu'r ffaith, er budd diogelwch cleifion, bod 53 o'r 70 o gamau a argymhellir wedi'u cyflawni. O ystyried pwysau'r argyfwng COVID-19 presennol, mae'n fwy calonogol fyth bod cynnydd o'r fath wedi'i wneud.
"Fodd bynnag, y prif ffocws nawr yw gwella rheolaeth cwynion a phryderon. Cael proses effeithiol i reoli cwynion a phryderon yw'r allwedd i weithredu'n gyflym pan nad yw triniaeth yn cael ei darparu fel y dylai."
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd yn y Senedd, Andrew RT Davies AS, ei fod eisiau cael gwybod pa fath o gymorth fydd ar gael i'r 160 teulu sy'n aros am atebion.
"Mae'n iawn clywed y llinellau arferol o 'mae hwn wedi bod yn brofiad o ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol', ond mae'n debyg na fydd yn fawr o gysur i'r rhieni sy'n galaru", meddai.
"Mae angen y gefnogaeth arnyn nhw nawr gymaint ag o'r blaen, oherwydd bydd ailedrych ar amgylchiadau marwolaeth eu plentyn yn ailagor hen glwyfau."
'Ddim yn amser i laesu dwylo'
Dywed prif weithredwr newydd Cwm Taf Morgannwg, Paul Mears, fod yna waith pellach i'w wneud er bod nifer o welliannau wedi'u cyflwyno.
"Rwy'n gwybod bod yna deuluoedd sydd wedi'u brifo ac yn flin iawn am beth ddigwyddodd ac rwyf am sicrhau fod pob dim posib yn cael ei wneud i'w cefnogi," meddai.
"Gobeithio eu bod yn gallu gweld ein bod yn ceisio gwella'r gwasanaeth."
Dywedodd Greg Dix, cyfarwyddwr nyrsio, bydwreigiaeth a gofal cleifion y bwrdd iechyd: "Ry'n yn croesawu yr adroddiad diweddaraf yma gan y panel annibynnol. Mae'n dangos ein hymrwymiad i sicrhau gwasanaeth safonol ac yn nodi bod gwelliannau wedi'u cyflwyno yn ein gwasanaethau mamolaeth.
"Ond rhaid i ni beidio bod yn rhy fodlon. Mae angen mwy o welliannau ac ry'n yn ymwybodol bod yna waith pellach i'w wneud.
"Mae hwn wedi bod yn brofiad lle ry'n wedi dysgu o gamgymeriadau'r gorffennol. Rwy'n hyderus ein bod ar fin darparu gwasanaeth mamolaeth o safon uchel iawn - y math o wasanaeth ry'n am ei ddarparu i'n cymunedau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2019