Cronfa o £140m i helpu busnesau Cymru drwy'r pandemig

  • Cyhoeddwyd
adeiladwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith y diwydiant adeiladu a manwerthu mae'r niferoedd uchaf o weithwyr sydd wedi bod yn rhan o'r cynllun ffyrlo yng Nghymru

Mae £140m o arian ychwanegol wedi cael ei neilltuo i helpu busnesau i ddelio â'r heriau economaidd sydd wedi dod yn sgil Covid-19 ac a ddaw pan fydd y DU yn gadael yr UE.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi gan Weinidog yr Economi, Ken Skates, yn ystod cynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru ddydd Llun.

Am 18:00 nos Lun bydd bron i ddwy ran o dair o boblogaeth Cymru dan glo, pan fydd cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno yng Nghastell-nedd Port Talbot (NPT), Torfaen a Bro Morgannwg.

Fe fyddan nhw'n ymuno ag wyth ardal arall sydd eisoes yn wynebu cyfyngiadau newydd, gan effeithio ar bron i 2m o bobl.

Cafodd cyfyngiadau ar ddwy ddinas fwyaf Cymru - Caerdydd ac Abertawe - eu cyflwyno nos Sul.

Dywedodd Mr Skates y byddai dau gynllun gwahanol yn helpu busnesau yn yr ardaloedd hynny, yn debyg i'r rhai a gafodd eu cyhoeddi yn Lloegr.

"Mae'r help ychwanegol hwn wedi'i greu i ategu a chryfhau'r gefnogaeth a gyhoeddwyd gan y Canghellor wythnos ddiwethaf," meddai Mr Skates, "gan ddangos unwaith eto bod Llywodraeth Cymru'n proactive yn ei hymdrechion i roi'r cymorth ariannol ychwanegol y gwyddom sydd ei angen ar ein busnesau a'n gweithwyr."

Bydd grantiau o £1,500 ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 ac sydd wedi dioddef yn sgil cyfyngiadau lleol.

Bydd grantiau o £1,000 ar gael i fusnesau llai sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai ac sydd wedi dioddef yn sgil y cyfyngiadau newydd.

Bydd 5% o'r cyllid hwn yn cael ei roi i awdurdodau lleol.

'Ffynnu nid goroesi'

Ail gam y pecyn cefnogaeth yw rhoi £80m i fusnesau i baratoi ar gyfer y cyfnod wedi Covid, meddai Mr Skates

Hwn fydd trydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd ac mae wedi'i gynllunio i gefnogi busnesau sydd â phrosiectau sy'n gallu eu helpu i symud i'r 'normal newydd'.

"Ry'n am iddynt [busnesau] ffynnu yn y dyfodol," meddai Mr Skates, "nid dim ond goroesi yn y presennol."

Bydd grantiau o £10,000 i fusnesau bach sy'n cyflogi hyd at naw o bobl ond rhaid iddynt roi o leiaf 10% o arian cyfatebol.

Ar gyfer busnesau bach a chanolig bydd grantiau o £150,000 ar gael - bydd hi'n ofynnol i fusnesau bach fuddsoddi 10% o arian cyfatebol a busnesau canolig 20%.

Ar gyfer busnesau mawr bydd £200,000 ar gael - sef busnesau sy' cyflogi dros 250 o bobl ac mae'n ofynnol iddyn nhw fuddsoddi 50% o gyllid cyfatebol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

O'r £80m, bydd £20m yn cael ei glustnodi i gefnogi twristiaeth a busnesau lletygarwch ym misoedd y gaeaf er mwyn hwyluso amgylchiadau iddyn nhw ar gyfer gwanwyn 2021.

"Rwy'n gobeithio y bydd cyhoeddiadau heddiw yn dod i rym ym mis Hydref," medd Mr Skates.

"Bydd rhaid gwneud cais cyn diwedd y mis ac yna ry'n yn gobeithio y bydd taliadau yn cyrraedd yn fuan.

"Ry'n yn gwbl ymroddedig i gefnogi busnesau Cymru yn ystod y misoedd nesaf a ninnau ar drothwy'r gaeaf," ychwanegodd.