'Angen cynllun newydd yn lle ffyrlo' medd CBI Cymru

  • Cyhoeddwyd
adeiladwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith y diwydiant adeiladu a manwerthu mae'r niferoedd uchaf o weithwyr sydd wedi bod yn rhan o'r cynllun ffyrlo yng Nghymru

Fe ddylai Llywodraeth y DU ddisodli'r cynllun ffyrlo gyda chynllun newydd sydd wedi ei dargedu ar gyfer y busnesau sydd wedi dioddef fwyaf o ganlyniad i'r pandemig medd Cymdeithas y Cyflogwyr, CBI Cymru.

Mae twristiaeth, lletygarwch, hamdden a'r diwydiant awyrennau ymysg y sectorau sydd wedi eu taro galetaf o achos effaith coronafeirws ar fusnesau.

Dywedodd cyfarwyddwr CBI Cymru, Ian Price ei fod yn credu y bydd busnesau yn gorfod talu "talp mwy".

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Nid ydym wedi oedi cyn gweithredu mewn ffordd greadigol ac effeithiol i gefnogi swyddi ac fe fyddwn yn parhau i wneud hynny wrth i ni brofi adferiad o'r argyfwng hwn."

Mae Ian Price hefyd yn dweud ei fod yn rhagweld y bydd gweithwyr yn gorfod ysgwyddo mwy o faich ariannol unrhyw gynllun newydd o gymharu gyda'r ffyrlo, oedd yn talu 80% o gyflogau gweithwyr am gyfnod.

Ychwanegodd ei fod yn rhagweld y byddai'r cynllun ond yn berthnasol i'r sectorau hynny gafodd eu taro waethaf.

Daw hyn wrth i rannau o Gymru brofi cyfnodau clo lleol wrth i nifer yr achosion coronafeirws gynyddu unwaith eto.

Dywedodd Mr Price: "Yn amlwg rydym angen rhyw fath o gefnogaeth wedi ei dargedu unwaith mae'r Cynllun Cadw Swyddi'n dod i ben."

Ychwanegodd fod pobl yn siarad am wynebu penderfyniadau anodd am ddiswyddiadau unwaith yr oedd cynllun y llywodraeth yn dod i ben yr wythnos hon.

"Mae'n rhaid cael cyhoeddiad eithaf buan gan Lywodraeth y DU er mwyn awgrymu y bydd rhywbeth ar gael i rai sectorau sydd ei angen fwyaf," meddai.

Ffynhonnell y llun, Barcroft Media
Disgrifiad o’r llun,

Canghellor y Trysorlys, Rishi Sunak

Un sector sydd yn pryderu am y dyfodol yw'r sector cynhyrchu dodrefn, gyda Chonffederasiwn Dodrefn Prydain yn pryderu y gallai hanner y swyddi yn y sector ddiflannu.

Mae eu haelodau'n rhagweld y bydd gwerthiant eu nwyddau'n gostwng 25% i 30% eleni.

Dywed y Canghellor Rishi Sunak mai chwilio am ffyrdd i ddiogelu swyddi yw ei "brif flaenoriaeth" wedi i ddiweithdra y DU gyrraedd ei lefel uchaf mewn dwy flynedd.

Mae'r Trysorlys yn dweud fod y cynllun ffyrlo - sydd wedi rhoi cymorth i 378,400 o weithwyr yng Nghymru - wedi cyflawni'r hyn yr oedd i fod i'w wneud, sef achub swyddi a chynorthwyo pobl i ddychwelyd i'r gwaith.

"Ac mae llawer o'n camau digynsail - gan gynnwys y Cynllun Bonws Cadw Swyddi, hoe mewn taliadau trethi busnes, toriadau TAW a chynllun hybu swyddi newydd - yn sicrhau y bydd y gefnogaeth yma yn parhau hyd at flwyddyn nesaf," meddai llefarydd.