Cwtogi nifer yr ysbytai maes o 19 i 10 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty maes Parc y Scarlets Llanelli
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r ysbytai maes ym Mharc y Scarlets yn Llanelli

Bydd nifer yr ysbytai maes gafodd eu sefydlu er mwyn ymdopi gydag achosion coronafeirws yng Nghymru yn gostwng o 19 i 10 meddai Llywodraeth Cymru.

Bydd gostyngiad yn nifer y gwelyau ychwanegol hefyd, o tua 10,000 i 5,000 o welyau ar gyfer gweddill 2020/21.

Wrth gyhoeddi'r newyddion fore dydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething nad "oedd angen y mwyafrif helaeth o'r gwelyau ysbyty ychwanegol" yn ystod ton gyntaf y pandemig.

Ychwanegodd ei bod yn debygol iawn "y bydd angen capasiti ychwanegol ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ymdopi â'r galw cynyddol am wasanaethau" yn ystod cyfnod y gaeaf.

Yn y cyfamser mae ystadegau wythnosol diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos fod pum marwolaeth Covid-19 yng Nghymru - sydd bedair yn uwch na'r wythnos flaenorol.

Mae hyn yn gyfystyr â 0.9% o holl farwolaethau yng Nghymru dros yr wythnos dan sylw. Cafodd dwy farwolaeth eu cofnodi yn Sir y Fflint - un mewn ysbyty a'r llall mewn cartref gofal. Roedd y marwolaethau eraill wedi eu cofnodi mewn ysbytai yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Cyfanswm nifer y marwolaethau Covid-19 yng Nghymru hyd at 18 di ydy 2,575.

Cofnodwyd y nifer uchaf o farwolaethau yng Nghaerdydd (389), gyda 303 marwolaeth yn ardal Rhondda Cynon Taf.

Mae nifer y marwolaethau wedi arafu'n sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf.

Cwtogi niferoedd

Wrth gyhoeddi'r newyddion am gwtogi nifer yr ysbytai maes, dywedodd Vaughan Gething: "Yn seiliedig ar fodelu data a'r hyn yr ydym wedi'i ddysgu o'r brig cyntaf o achosion, gofynnwyd i fyrddau iechyd gadw 5,000 o welyau ar draws Cymru i alluogi rheoli'r senario achos gwaethaf rhesymol pe bai cynnydd mawr mewn derbyniadau brys i welyau ysbyty.

"Bydd y byrddau iechyd yn cyflawni'r nod hwn drwy gadw 10 o ysbytai maes mewn pedwar bwrdd iechyd yng Nghymru gan roi'r gallu i ddarparu oddeutu 2,600 o welyau ychwanegol.

"Yn ogystal â hyn, bydd 2,500 o welyau ychwanegol ar gael mewn cyfuniad o gyfleusterau ysbyty presennol y GIG; drwy agor un cyfleuster ysbyty newydd y GIG; a chodi adeilad modiwlar newydd ar safle ysbyty presennol."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality, Caerdydd

Dywedodd y gweinidog y byddai'r capasiti ychwanegol ar gyfer misoedd y gaeaf yn "galluogi byrddau iechyd i barhau i gynnal llawdriniaethau sydd wedi'u cynllunio ac ymdopi â'r galw am ofal brys a gofal mewn argyfwng yn ystod y gaeaf hanesyddol heriol hwn; yn ogystal â rheoli unrhyw gynnydd posibl yn y nifer o gleifion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty yn sgil Covid-19."

Yr ysbytai maes fydd y parhau i gael eu cadw yw:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Venue Cymru yn Llandudno; Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy; a Chanolfan Brailsford ym Mhrifysgol Bangor. Bydd nifer o welyau ychwanegol hefyd ar gael yn ysbytai presennol y GIG i sicrhau cyfanswm o 1,198 o welyau ychwanegol.

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Ysbyty maes yng nghyn uned Harman Becker yn Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr yn ogystal â'r gwelyau ychwanegol yn ysbytai presennol y GIG, gan roi cyfanswm o 718 o welyau ychwanegol.

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: Amryw o safleoedd ysbyty maes bychan ar draws y rhanbarth. Bydd hyn yn cynnwys yr 'Ysgubor' ym Mharc y Scarlets, Canolfan Selwyn Samuel yn Llanelli, Bluestone yn Sir Benfro a Chanolfannau Hamdden Aberystwyth ac Aberteifi. Gyda'r gwelyau ychwanegol yn ysbytai presennol y GIG, bydd y Bwrdd Iechyd yn cadw 613 o welyau ysbyty ychwanegol.

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: Stwidios y Bae yn Abertawe. Bydd y safle hwn yn cael ei gadw gan ddarparu lle i hyd at 818 o welyau os oes angen.

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: Agor Ysbyty Athrofaol y Faenor bedwar mis yn gynnar ym mis Tachwedd a gyda'r gwelyau ychwanegol yn safleoedd presennol y GIG, bydd hyn yn darparu oddeutu 942 o welyau ychwanegol.

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: Adeiladu cyfleuster modiwlar newydd ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn ogystal â'r gwelyau ychwanegol yn safleoedd presennol y GIG a fydd yn darparu cyfanswm o tua 800 o welyau ychwanegol.

  • Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi dod o hyd i gapasiti ychwanegol o fewn ei ysbytai presennol ac mae ganddo gytundeb gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau cyfagos i sicrhau mynediad i welyau ysbyty ychwanegol i'w breswylwyr yn ôl yr angen. Bydd hyn yn darparu 210 o welyau ychwanegol.