Covid-19: Ysbytai maes yn costio £166m i Lywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty maes Parc y Scarlets Llanelli
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o'r ysbytai maes ym Mharc y Scarlets yn Llanelli

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £166m ar sefydlu ysbytai maes ar draws Cymru lle mae 35 o gleifion wedi cael triniaeth hyd yn hyn.

Cafodd 19 o ysbytai maes eu sefydlu mewn llai nag wyth wythnos mewn ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

Nod yr ysbytai yw cefnogi'r GIG yn ystod y pandemig trwy gynyddu'r nifer o welyau sydd ar gael i drin cleifion, a helpu ailddechrau cynnal gwasanaethau iechyd arferol.

Cafodd 6,000 o welyau ychwanegol eu trefnu o fewn chwe wythnos, gan bron ddyblu'r capasiti yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Gwaith sefydlu un o dair Ysbyty'r Enfys y gogledd yng Nghanolfan Brailsford, Bangor

Cafodd y cleifion cyntaf eu symud fis diwethaf i Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality Caerdydd, sydd bellach â 1,500 o welyau - un o ysbytai maes mwyaf y DU.

Pum niwrnod y cymrodd i gynllunio'r ysbyty, sy'n caniatáu gofal mewn dros 20 o feysydd meddygol arbenigol.

Mae ysbytai hefyd wedi eu sefydlu ym Mharc Gwyliau Bluestone yn Sir Benfro, yn stadiwm Parc y Scarlets yn Llanelli a chanolfan gelfyddydol Venue Cymru yn Llandudno.

O ran cyfarpar, dywed Llywodraeth Cymru fod 138,000 o eitemau wedi eu darparu i'r ysbytai maes.

Mae'r cyfarpar yn cynnwys gwelyau, offer pelydr-X, a meddyginiaethau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau wrth Cymru Fyw mai 35 o gleifion sydd wedi cael eu trin yn yr ysbytai maes hyd yma.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Mae cyfanswm o 35 o bobl wedi cael gofal mewn ysbytai maes hyd yn hyn ac maen nhw'n rhan bwysig o'n strategaeth ehangach i ymateb i'r coronafeirws.

"Byddan nhw'n cael eu defnyddio yn hyblyg dros y misoedd nesaf a byddwn yn cynnal adolygiad cenedlaethol ym mis Mehefin."