Coronafeirws: Y claf cyntaf o Gymru wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty MaelorFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y claf wedi derbyn triniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae'r claf cyntaf o Gymru wedi marw ar ôl cael y clefyd Covid-19, neu coronafeirws.

Daeth y cadarnhad gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton ddydd Llun.

Daw wrth i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson ddweud y dylai pawb yn y DU osgoi unrhyw gysylltiad diangen gydag eraill mewn ymdrech i atal lledaenu'r feirws.

Dywedodd Dr Atherton: "Mae'n ddrwg iawn gen i gadarnhau fod claf yng Nghymru wedi marw ar ôl cael y clefyd Covid-19.

"Rwy'n cydymdeimlo'n ddidwyll gyda'r teulu a chyfeillion, gan ofyn fod eu cais am breifatrwydd yn cael ei barchu.

"Roedd y claf, oedd â chyflyrau iechyd eraill, yn 68 oed ac yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam."

'Trist iawn'

Dywedodd y prif weinidog, Mark Drakeford: "Trist iawn yw clywed bod person yng Nghymru oedd â'r coronafeirws wedi marw.

"Rwy'n cydymdeimlo'n ddwys â theulu a ffrindiau'r unigolyn.

"Rydym yn dal ati i weithio'n galed i ymateb i'r sefyllfa hon, sy'n newid yn gyflym, wrth i effaith y feirws barhau i gynyddu yn ystod y dyddiau a'r wythnosau i ddod."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Boris Johnson y dylai pobl osgoi mannau cyhoeddus fel tafarndai, sinemâu a theatrau

Mewn datganiad cyhoeddus brynhawn Llun dywedodd Mr Johnson y dylai'r cyhoedd hefyd geisio osgoi unrhyw deithio diangen.

Ychwanegodd y dylai pobl weithio o adref ac osgoi mannau cyhoeddus fel tafarndai, sinemâu a theatrau ble fo hynny'n bosib.

Fel rhan o'r mesurau newydd i fynd i'r afael â coronafeirws dylai unrhyw un sy'n rhannu cartref â rhywun sydd â pheswch neu wres hunan ynysu am bythefnos.

Dywedodd Mr Johnson bod hyn yn bwysig iawn i'r henoed, merched beichiog ac unrhyw berson sydd â chyflyrau iechyd eraill.

Ychwanegodd Mr Drakeford y bydd pobl sydd â rhai cyflyrau yn derbyn cyngor yr wythnos hon ar hunan ynysu am hyd at 16 wythnos heb gyswllt gyda'u meddyg teulu neu arbenigwyr eraill.

"Bydd ysgolion yn parhau ar agor a dyna'r penderfyniad cywir am y tro, ond byddwn yn adolygu hynny'n gyson," meddai.

'Oedi'r lledaeniad'

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod dros 100 o achosion o coronafeirws wedi eu cadarnhau yng Nghymru.

Dywedodd Dr Giri Shankar o ICC fod 30 o achosion newydd wedi dod i'r fei ers dydd Sul gan ddod â chyfanswm yr achosion yma i 124.

"Mae ICC yn gweithio gyda'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, y GIG yng Nghymru ac eraill nawr ein bod wedi dechrau ar y dull 'oedi'," meddai.

"Nid ymgais yn unig i ddal y clefyd yn ôl yw hyn, ond i oedi ei ledaeniad."

Cadarnhaodd fod y cyngor i'r cyhoedd wedi newid o ran ffonio 111. Dylai pobl ond ffonio os nad ydyn nhw'n gwella wedi saith niwrnod o hunan-ynysu.

Mae'r dull yma yn adlewyrchu dull Llywodraeth y DU yn Lloegr.

Ni fydd profion am y feirws yn cael eu cynnal heblaw mewn ysbytai.

Ychwanegodd Dr Shankar: "Er nad oes angen bellach i adnabod pob achos drwy gynnal profion yn y gymuned, fe fyddwn ni'n dal angen adrodd am achosion o'r coronafeirws yng Nghymru, ac fe fyddwn yn cynnal gwyliadwraeth Covid-19 a fydd yn ein cynorthwyo i ddeall y darlun yng Nghymru.

"Yn y tymor byr felly, fe fyddwn yn parhau i adrodd nifer yr achosion sydd wedi'u cadarnhau."

Yn y ffigyrau diweddaraf, mae tair sir - Gwynedd, Sir Ddinbych a Merthyr Tudful - yn dal heb weld yr un achos o coronafeirws, ond nid yw'r darlun yn gyflawn hyd yma gan nad yw union leoliadau rhai o'r achosion newydd wedi eu cadarnhau.

Dadansoddiad Owain Clarke, Gohebydd Iechyd BBC Cymru

O hyn ymlaen bydd y nifer o achosion positif swyddogol yn llai na'r nifer go iawn o achosion yn ein cymunedau.

Yn y cyfnod "oedi" yma mae'r pwyslais ar brofi'r rhai sy'n ddigon sâl i gael triniaeth mewn ysbyty yn hytrach na thrin unigolion yn eu cartref.

Mae hynny gan fod y rhagdybiaeth nawr wedi newid. Os oes gennych chi symptomau annwyd neu ffliw yna efallai bod gennych coronafeirws.

Felly'r cyngor yw y dylech hunan-ynysu, a does dim angen prawf positif i wneud hynny.

Felly mae'n debyg bod y nifer o achosion wedi eu cadarnhau yn llawer llai na'r ffigwr go iawn o achosion.

Atal busnes arferol

Yn y cyfamser mae un AC blaenllaw wedi galw ar y Cynulliad i roi'r gorau i'w fusnes arferol er mwyn canolbwyntio'n llwyr ar coronafeirws.

Dywedodd cyn-arweinydd grŵp y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, fod unrhyw beth arall yn "tynnu sylw yn ddiangen".

Mae pwyllgorau'r Cynulliad yn cael eu cynnal fel arfer ddydd Llun, ac mae disgwyl i weinidogion wneud datganiadau ar faterion eraill yn ogystal â coronafeirws yn sesiwn lawn ddydd Mawrth.

Fe wnaeth Mr Davies hefyd feirniadu ymateb Llywodraeth Cymru.

Dywedodd: "Mae bwlch yn datblygu yn ymateb economaidd Llywodraeth Cymru i'r argyfwng Covid-19 ac mae dryswch am y cymorth ariannol y gallai gweinidogion ei roi i fusnesau a phobl leol.

"Byddai'n synnwyr cyffredin i'r Cynulliad roi'r gorau i'w fusnes arferol a chanolbwyntio'i holl ymdrechion i sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n darparu pob cymorth posib i wasanaethau cyhoeddus Cymru, cymunedau a busnesau.

"Yn yr hinsawdd sydd ohoni mae unrhyw beth arall yn tynnu sylw yn ddiangen."

Erbyn nos Lun roedd tri AC wedi datgan eu bod yn hunan ynysu - Mark Reckless o Blaid Brexit, ar ôl cael symptomau "sydd o bosib yn gyson" â'r coronafeirws, arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi i'w blentyn amlygu symptomau, a'r AC annibynnol Neil McEvoy, wedi i'w wraig ddatblygu symptomau.