Crynhoi tystiolaeth yn achos llofruddiaeth Nantgaredig

  • Cyhoeddwyd
Andrew Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Jones yn gwadu llofruddio Michael O'Leary, oedd yn gyfaill iddo am flynyddoedd

Mae Llys y Goron Abertawe wedi clywed areithiau cloi'r achos yn erbyn dyn busnes o Sir Gaerfyddin sy'n gwadu llofruddio cariad ei wraig fis Ionawr eleni.

Mae'r erlyniad yn honni fod Andrew Jones, 53, wedi denu Michael O'Leary, 55, i'w fferm anghysbell, gan ddefnyddio ffôn ei wraig, a'i saethu cyn cludo'i gorff i'w iard adeiladu a'i losgi.

Ond wrth grynhoi achos yr amddiffyn, dywedodd Kharim Khalil QC mai "damwain erchyll" oedd y farwolaeth, yn hytrach nag achos o lofruddiaeth.

Mae'r barnwr, Y Fonesig Ustus Jeffers, wedi dechrau crynhoi'r achos, sydd wedi dod i ben am y diwrnod.

Awgrymodd Mr Khalil i'r rheithgor fod y diffynnydd wedi "mynd i banig" wedi'r "arswyd" o weld un o'i ffrindiau gora'n farw yn ei freichiau ac mai dyna pam na ffoniodd y gwasanaethau brys.

Roedd Mr Jones, meddai, yn ddyn gweithgar, yn "aelod mawr ei barch o fewn y gymuned leol... nid y math o berson sy'n debygol o ladd".

Dywedodd fod y cyfarfod rhwng y ddau ar fferm anghysbell ar gyrion Caerfyrddin "wedi mynd yn ddifrifol allan o reolaeth... nid oedd wedi bwriadu lladd".

Roedd y risgiau uchel ynghlwm â phenderfyniad Mr Jones i losgi corff Mr O'Leary ger ei gartref ei hun, awgrymodd, yn "brawf pellach o ddiffyg cynllunio".

Fe wnaeth Mr Khalil gydnabod bod Mr Jones wedi dweud celwydd wrth gael ei holi yn y lle cyntaf ynghylch diflaniad Mr O-Leary, ond doedd hynny, meddai ddim yn profi cyhuddiad o lofruddiaeth.

Roedd hefyd, awgrymodd, yn hollol ddealladwy fod "dyn ag enw da" oedd "erioed wedi cael ei arestio" na'i holi wedi rhoi cyfweliadau "dim sylw" ar sail cyngor cyfreithiol.

Roedd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe eisoes wedi clywed araith gloi'r erlyniad, sy'n dadlau mai gyda'r bwriad o ladd Mr O'Leary yr aeth Mr Jones i'w gyfarfod gyda reiffl ag ynddo fwledi byw.

Dywedodd William Hughes QC ei fod "wedi penderfynu'n glir i wneud i Mike O'Leary ddiflannu ac fe gynlluniodd ei drosedd yn ofalus, i sicrhau taw ef oedd yr unig berson i gael [ei wraig] Rhiannon.

"Nid damwain mo hon... Doedd gan Mr Jones ddim bwriad siarad gyda Mr O'Leary."

Gofynnodd Mr Hughes a oedd geiriau honedig olaf Mr O'Leary - "plîs paid â'i wneud e, Jones" - yn apêl iddo beidio dweud wrth ei deulu am y berthynas gyda Mrs Jones, "ynteu ai dyma eiriau olaf dyn sydd ar fin gael ei saethu, yn erfyn am ei fywyd?".

Awgrymodd Mr Hughes y byddai'r diffynnydd wedi gallu mynd ag un o'i arfau ffug i'r cyfarfod, os taw'r bwriad oedd codi ofn ar Mr O'Leary.

Dywedodd hefyd y gallai Mr Jones fod wedi dweud y drefn ynghylch y berthynas gyda Rhiannon Jones mewn galwad ffôn, yn hytrach na "mewn gofod agored oddi wrth eu teuluoedd".

Awgrymodd fod Mrs Jones wedi rhoi addewid blaenorol bod popeth drosodd, cyn parhau â'r berthynas gudd, ac felly roedd "yr ateb, dywedwn ni, yn glir i Mr Jones - cael gwared ar Mike".

Mae'r achos yn parhau.