Achos llofruddiaeth Nantgaredig: 'Priodas dan straen'

  • Cyhoeddwyd
Rhiannon ac Andrew Jones
Disgrifiad o’r llun,

Andrew Jones, gyda'i wraig, Rhiannon

Mae rheithgor mewn achos llofruddiaeth yn Llys y Goron Abertawe wedi bod yn clywed am berthynas Andrew Jones a'i wraig Rhiannon a chyfres o negeseuon testun rhyngddyn nhw.

Mae Mr Jones, 53 oed, yn gwadu cyhuddiad o lofruddio Michael O'Leary ar ffermdy yng Nghwmffrwd ar gyrion Caerfyrddin.

Does neb wedi gweld Mr O'Leary ers iddo fethu â dychwelyd i'w gartref yn Nantgaredig ar 27 Ionawr eleni, a dydy ei gorff heb ei ddarganfod eto.

Clywodd y llys fod y negeseuon rhwng y diffynnydd a'i wraig yn awgrymu fod priodas y ddau o dan straen wedi i Mr Jones ddarganfod fod ei wraig yn cael perthynas â Mr O'Leary.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Does neb wedi gweld Mr O'Leary ers 27 Ionawr eleni

Darllenwyd nifer fawr o negeseuon rhwng ffonau cudd Mr O'Leary a Rhiannon Jones, yn ogystal â negeseuon gan ferch Andrew a Rhiannon Jones, Cari.

Wrth roi tystiolaeth, cyfeiriodd y ditectif gwnstabl Andrew Fawkes-Williams at ddeunydd a oedd yn dangos fod Cari Jones wedi llwyddo i weld negeseuon cudd rhwng ei mam a Mr O'Leary.

Roedd un neges gan Cari at Mr O'Leary yn nodi ei bod yn gwybod am y berthynas, a bod hyn wedi chwalu ei bywyd hi a'i thad.

Fe wnaeth y rheithgor hefyd glywed am negeseuon rhwng Andrew Jones a'i ferch tra roedd hi yng Nghlwb Rygbi Nantgaredig gyda'i mam.

Dywed yr erlyniad fod y diffynnydd yn gofyn i'w ferch gadw llygad ar ei mam a Mr O 'Leary.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Jones yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn

Yn ôl yr erlyniad roedd Mrs Jones wedi dechrau defnyddio ei ffôn newydd cudd fis Rhagfyr y llynedd, gan anfon negesuon at ffôn cudd Mr 'Leary.

Fis Ionawr eleni, honnir i'r diffynnydd ddenu Mr O'Leary i'w ffermdy yng Nghwmffrwd ar ôl cael gafael ar ffôn cudd ei wraig, gan esgus mai hi oedd yn anfon y negeseuon.

Ffynhonnell y llun, HEDDLU DYFED-POWYS
Disgrifiad o’r llun,

Heddlu fforensig yn archwilio safle ar ffermdy

Clywodd y llys fod y ffonau cudd wedi eu cofnodi yn y fferm yng Nghwmffrwd, yng ngartref Andrew Jones yn Heol Bronwydd, yn ogystal â'r fan lle cafodd cerbyd Mr O'Leary ei ddarganfod ar Heol Capel Dewi, ac yn Ysbyty Glangwili yn ddiweddarach y noson honno.

Yn ôl yr erlyniad ar ôl diflaniad Mr O'Leary, fe wnaeth Mr Jones anfon nifer o negeseuon ar ei ffôn at ei ffrindiau yng nghlwb rygbi Nantgaredig yn gofyn a oedd yna "unrhyw newyddion" am Mr O'Leary.

Cafodd y negeseuon yna eu hanfon tra'i fod ef yn Ysbyty Glangwili gyda'i wraig ar ôl iddi hi "syrthio allan o'i gwely".

Dywedodd un o'r negeseuon "gallai ddim dod dros Mike," ac yna ychwanegodd, "gobeithio ei fod yn Sbaen yn partio neu rywbeth".

Mae Mr Jones o Heol Bronwydd, Caerfyrddin yn gwadu cyhuddiad o saethu Michael O 'Leary, 55 oed, cyn llosgi ei gorff yn ddiweddarach.

Mae'r achos yn parhau.