Nantgaredig: Diffynnydd 'am godi ofn' ar ddyn fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio cariad ei wraig wedi bod yn rhoi mwy o dystiolaeth yn yr achos yn ei erbyn.
Mae Andrew Jones yn gwadu iddo lofruddio Michael O'Leary yn Ionawr eleni.
Honiad yr erlyniad yw fod Mr Jones wedi denu Mr O'Leary i'w fferm anghysbell a'i saethu, cyn cludo'i gorff i'w iard adeiladu yng nghar ei wraig a'i losgi.
Ddydd Llun, dywedodd Mr Jones iddo fynd â dryll i'w gyfarfod gyda Mr O'Leary "i godi ofn arno" ond i'r dryll danio ar ddamwain pan wnaeth ei gyfaill fynd amdano.
Gofynnodd William Hughes QC ar ran yr erlyniad pam ei fod wedi mynd â reiffl a bwledi 'byw' i'r cyfarfod os mai ond am godi ofn ar Mr O'Leary oedd ei ddymuniad.
"Er mwyn gwneud sŵn," atebodd Mr Jones.
"Pam ddim defnyddio bwledi ffug," meddai Mr Hughes, "fe fyddai'r rheini wedi gwneud sŵn?"
Cytunodd Mr Jones y bydden nhw, ond nad oedd yn gwybod os fydden nhw'n gweithio yn ei reiffl.
Gofynnwyd iddo pam na aeth ag un o'r saith dryll arall yr oedd yn berchen arnynt, a dywedodd Mr Jones ei fod am fynd gyda'r un "oedd yn edrych yn fwya brawychus" gydag ef.
"Ro'n i am iddo gael y neges i gadw'n glir oddi wrthon ni."
Awgrymodd Mr Hughes i'r diffynnydd ei fod wedi mynd gyda reiffl gan y byddai'r "difrod o'r bwledi yn llawer llai" gan olygu y byddai llai o "waith glanhau" o unrhyw anaf.
"Wnaeth hynny ddim croesi fy meddwl o gwbl," meddai Mr Jones.
Yn gynharach yn yr achos roedd Mr Jones wedi dweud ei fod yn ystyried Mr O'Leary i fod yn un o'i ffrindiau agosaf, a'i fod yn gwybod am berthynas Mr O'Leary gyda'i wraig am tua pedwar mis, ond nad oedd wedi trafod y mater gyda Mr O'Leary.
Awgrymodd Mr Hughes iddo y gallai fod wedi trafod y mater wyneb yn wyneb, heb fynd ag arf, ac efallai dweud wrth deulu Mr O'Leary am y berthynas.
"Fe wnes i ddweud hynny pan oeddwn i yno... y cyfan o'n i am neud oedd rhoi ofn iddo, a dyna oedd y ffordd orau oeddwn i'n meddwl o wneud hynny."
Dywedodd Mr Jones fod Mr O'Leary wedi mynd am y dryll, oedd yn gorwedd yn erbyn baryl, a bod y dryll wedi tanio gan daro Mr O'Leary yn ei ên a'i ladd.
"Pam na wnaethoch chi ffonio'r gwasanaethau brys bryd hynny?" gofynnodd Mr Hughes.
"Dwi ddim yn gwybod," atebodd Mr Jones. "Doeddwn i ddim yn meddwl yn glir. Roeddwn i wedi mynd i banig".
Gorchuddio â phlastig
Wrth gael ei holi am yr eiliadau wedi anafiadau angheuol Mr O'Leary gofynnodd William Hughes QC i Mr Jones a oedd Mr O'Leary yn anadlu.
"Nag oedd," meddai.
Ac wrth gael ei holi am ei symudiadau wedi hynny dywedodd ei fod wedi gwagio'r dryll ac wedi ei roi yng nghist ei gar ond "roeddwn i mewn panig ac ofn".
"Fe droth fy sylw wedyn," meddai, "at gar Michael O' Leary," a dywedodd ei fod wedi gorchuddio Mr O'Leary â phlastig a'i roi yng nghist ei gerbyd.
Eglurodd Mr Jones hefyd ei fod wedi rhoi beic o'r fferm yng nghefn car cerbyd Mr O'Leary ac wrth iddo roi Mr O'Leary yng nghefn car Audi Q7 ei wraig, dywedodd bod un o'i sgidiau wedi dod bant ac yna ei fod wedi cael syniad i wisgo sgidiau Mr O'Leary gan y byddai ei 'trainers' e "o batrwm gwahanol".
Clywodd y llys ei fod yna wedi gyrru i faes parcio ar ffordd Capel Dewi yn gwisgo esgidiau Mr O'Leary a'i fod wedi cerdded i afon er mwyn rhoi'r argraff bod Mr O'Leary wedi mynd lawr i'r afon.Clywodd y llys hefyd bod Mr Jones wedi anfon nifer o negeseuon testun o ffôn symudol Mr O'Leary yn dweud "Rwyf mor flin x" ac yna wedi taflu allweddi'r car a'r ffôn i Afon Tywi.
"Roeddwn i am guddio pethau," dywedodd Mr Jones.Fe wnaeth Andrew Jones yna seiclo i Fferm Cincoed a gyrru corff Michael O'Leary i'w gartref ar Ffordd Bronwydd.
Mae Mr Jones yn gwadu'r cyhuddiad ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2020
- Cyhoeddwyd24 Medi 2020
- Cyhoeddwyd23 Medi 2020