Ateb y Galw: Y telynor Dylan Cernyw
- Cyhoeddwyd
![Dylan Cernyw](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1CDD/production/_114698370_dylan_cernyw.jpg)
Y telynor Dylan Cernyw sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Gwenan Gibbard yr wythnos diwethaf.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/3364/production/_98765131_line976.jpg)
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi'n cofio aros yn tŷ Nain a Taid Llican ym Mae Colwyn. Oedda ni arfer treulio nosweithiau yna gyda fy nghefndryd - tŷ mawr tri llawr a B&B.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Simon Le Bon o'r grŵp Duran Duran.
![Simon Le Bon](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/6AFD/production/_114698372_simon_le_bon.jpg)
Simon Le Bon - un o 'heart-throbs' yr 80au
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwi'm yn meddwl fod 'na ddim byd bellach! Rhy hen i boeni.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi'n berson eithaf emosiynol ac yn ddagreuol mewn ffilmiau a chaneuon. Ond yn ddiweddar gyda'r hyn sydd wedi digwydd yn y wlad o'n i'n cerdded o gwmpas Llandrillo yn Rhos yn gwrando ar y radio a ges i'n llorio gan drefniant Eirlys Myfanwy a Côr Lleisiau'r Cwm o'r Emyn Fel yr Hydd. O'n i yn fy nagrau ar ochr lôn gyda'r geiriau a threfniant.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Roeddwn i'n arfer poeni gormod am bethau dibwys, a dwi'n cnoi fy ewinedd.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/3364/production/_98765131_line976.jpg)
O archif Ateb y Galw:
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/3364/production/_98765131_line976.jpg)
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Unrhyw noson yn Iwerddon - un o'n hoff lefydd tu allan i Gymru.
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
O'n i arfer cyd-rhedeg tŷ tafarn ar y Wirral, a dwi newydd gael tatŵ.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Fy hoff le ydi adre, yma yn Nyffryn Conwy.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Bui Doi o Miss Saigon. Dwi heb weld y sioe, a does 'na ddim siawns yn y dyfodol agos, ond ar y funud trefniant The Welsh of the West End men gyda Steffan Rhys Hughes a'r hogie.
![Steffan Rhys Hughes](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B91D/production/_114698374_bui_doi.jpg)
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Ffyddlon, bodlon a chefnogol.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Fy hoff film ydi Philomena gyda Judy Dench. Mae'n ffilm sydd yn dod â dagrau, hiwmor ac yn stori mor drist. Dwi'n ddiog am ddarllen, er fod 'na lond gwlad o lyfrau yma.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Dwi'n meddwl gyda Harpo Marx i gael jamio gyda fo ar y delyn dros beint. Os ydi o ddim ar gael, Taid Llican fuodd farw pan o'n i'n ifanc i gael sgwrsio am hyn, llall ac arall.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Treulio'r noson gyda fy nheulu yn y Pen y Bryn ym Mae Colwyn, gydag Eden a Duran Duran yn canu yna, wrth gwrs.
![Eden](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/12E4D/production/_114698377_eden.jpg)
Tybed sut beth fyddai 'mash-up' o Paid â Bod Ofn a Hungry Like the Wolf...?!
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cwrs cyntaf: Brie deep fried gydag apricot chutney.
Prif gwrs: Salad cig eidion crispy gyda saws sweet chilli.
Pwdin: Cacen gaws.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Partner Russell Tovey, er mwyn cael treulio'r diwrnod gyda Russell wrth gwrs.
Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?
Robat Arwyn