Dyn yn ddieuog o gyhuddiadau ffrwydron ac arfau cemegol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a gafodd ei gyhuddo o fod â ffrwydron ac arfau cemegol ar ei fferm yn Nhrimsaran wedi ei gael yn ddieuog.
Cafodd Russell Wadge, 58, ei gyhuddo ar ôl i heddlu gwrthderfysgaeth gynnal cyrch ar ei gartref ym mis Mehefin 2019.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd y byddai'r stoc sylweddol o gemegau oedd ar ei eiddo "wedi eu rhoi at ei gilydd yn gallu lladd neu anafu".
Yn ystod yr achos llys, dywedodd Wadge wrth reithgor bod "pobl sy'n caru ffrwydron ddim o reidrwydd yn bobl ddrwg".
Dywed fod ganddo ddiddordeb mewn ffrwydron ond nad oedd yn bwriadu rhoi niwed i unrhyw un.
Roedd wedi gwadu 28 cyhuddiad o fod â ffrwydron ac arfau cemegol yn ei feddiant.
Ddydd Gwener, fe'i gafwyd yn ddieuog o'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Roedd Wadge eisoes wedi cyfaddef i fod â chemegion gwenwynig yn ei feddiant mewn gwrandawiad blaenorol.
Plediodd yn euog i bum trosedd yn Llys y Goron Abertawe ym mis Rhagfyr y llynedd.
'Dyn hynod anneniadol'
Wrth ei ddedfrydu i garchar am 12 mis am y troseddau hynny, dywedodd y Barnwr Geraint Walters fod Wadge yn "unigolyn rhagfarnllyd, anoddefgar i unrhyw un sy'n anghytuno gyda chi".
"Efallai y bydd achos i'r senedd edrych eto ar y deddfau ar gyfer ffrwydron. Nid gêm mohoni," meddai.
"O ran ffrwydron, rydyn ni wedi bod yn ystyried deddf seneddol sy'n mynd yn ôl i'r 1800au, mae amser wedi symud yn ei flaen."
Aeth yn ei flaen i ddweud fod Wadge yn unigolyn "hynod anneniadol" sydd gyda "dim parch at y gyfraith, sy'n amlwg o'r ffordd rydych chi dro ar ôl tro yn gwawdio'r heddlu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2019