Beirniadu penderfyniad i ostwng lefel dŵr argae
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw ar Ddŵr Cymru i wyrdroi eu penderfyniad i ostwng lefelau dŵr hen gronfa yn sir Conwy yn dilyn pryderon pobl leol am yr effaith posib ar fywyd natur.
Bwriad Dŵr Cymru ydy gostwng lefelau Llyn Anafon o 1.4m i'w lefelau gwreiddiol cyn ei droi yn gronfa ddŵr ond mae ymgyrchwyr lleol yn dweud y bydd y newid yn peryglu anifeiliaid fel merlod y Carneddau ac yn ddinistriol i heigiau o bysgod.
Fe gafodd y llyn, sydd â dyfnderoedd o 10.5m, ei droi'n gronfa ddŵr i wasanaethu'r ardal ar ddechrau'r 1930au ond fe gafodd ei ddadgomisynu rhai blynyddoedd yn ôl.
Yn ôl Dŵr Cymru bydd newidiadau yn digwydd yn raddol er mwyn rhoi'r cyfle i fywyd natur addasu ac maen nhw'n mynnu eu bod nhw'n ceisio gwarchod yr amgylchedd.
Wedi ei amgylchynu gan fynyddoedd y Carneddau ryw 330 o fetrau uwchben pentre' Abergwyngregyn mae Llyn Anafon yn fan poblogaidd i bysgotwyr ac ymwelwyr.
Ond mae effaith penderfyniad Dŵr Cymru i ostwng lefel y dŵr, o 1.4 metr i'w lefel gwreiddiol cyn 1930, eisoes i weld.
Tan rhai wythnosau yn ôl roedd dŵr yn llifo dros yr argae ond bellach mae wedi sychu.
Mae Dŵr Cymru yn dweud bod gostwng lefel y dŵr yn dychwelyd y llyn i'w lefel naturiol, ond gyda dros 500 o bobl leol bellach wedi arwyddo deiseb yn galw ar y sefydliad i wyrdroi'r penderfyniad, mae 'na densiwn.
Yn ôl y ffermwr mynydd Gareth Wyn Jones, mae'r llyn yn ffynhonnell ddŵr pwysig i ferlod cynhenid y Carneddau ac i ddefaid.
"Da ni'n amaethu yma, mae gynnon ni hawliau yma", meddai.
"Mae'r defaid, y merlod yn dod yma i yfed ac wrth gau'r llyn mae 'na fwy o siawns bod nhw'n mynd mewn i'r mwd ac yn marw, ac i fi dio'm yn neud dim sens.
"Mi fydd o'n bechod i'r dyfodol achos dio'm ots faint maen nhw'n gostwng o fydd o fyth 'run fath."
Yn ôl Mr Jones mae'r llyn yn un o lynnoedd mynyddig prin sy'n dal yn gartref i bysgod a gall gostwng y lefelau'r dŵr amharu ar eu cynefin.
Yn ôl adroddiad ar safon y llyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn 2016 mae'n gartref i ryw 21 o rywogaethau.
Un sy'n cofio pysgota'r llyn pan yn blentyn ydi Huw Jones o Lanfairfechan.
"Mae'r llyn yn beth mawr i bobl Llanfairfechan", meddai.
"Oni yma ryw fis yn ôl ac roedd 'na blant yma ac mae'n mynd a fi nol pan o'n ni'n blentyn. Mae'n gywilydd i Ddŵr Cymru".
Ychwanegodd fod y newid yn "chwarae efo natur".
Yn ôl Dŵr Cymru pwrpas y cynllun hir dymor ydi dychwelyd y llyn i'w lefelau gwreiddiol yn debyg i'r rhai oedd yno cyn ei droi yn gronfa ddŵr ym 1930.
Maen nhw'n dweud iddyn nhw ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru a'r cyhoedd a'u bod wedi "ymrwymo i warchod yr amgylchedd".
Maen nhw'n mynnu y bydd y newid yn digwydd yn raddol "dros gyfnod o 5-10 mlynedd" fydd yn rhoi'r cyfle i anifeiliaid a chynefinoedd i addasu'n naturiol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2020
- Cyhoeddwyd17 Medi 2020
- Cyhoeddwyd31 Awst 2020