Rhybudd am beryglon algâu i anifeiliaid anwes

  • Cyhoeddwyd
Algae

Mae yna rybudd i berchnogion anifeiliaid i osgoi llynnoedd wrth i brofion gael eu cynnal am algâu peryglus mewn dwy ardal o Gymru.

Mae'r algâu wastad yno, ond yn ystod tywydd poeth, mae'n ffynnu ac yn creu tocsinau gallai ladd anifeiliaid.

Sglein gwyrddlas ar wyneb y dŵr ac ewyn yn casglu ar y lan ydi'r arwyddion fod yr algâu, neu cyanobacteria, yn bresennol.

Mae profion yn cael eu cynnal ar lynnoedd yng Nghasnewydd ac yng Nghaerffili.

'Angen gofal'

Yn ôl Ifan Lloyd, Llywydd Cymru, Cymdeithas Filfeddygol Prydain, mae'n rhaid bod yn ofalus:

"Mae algae glas yn tyfu ar ddŵr sydd ddim yn symud rhyw lawer, a phan mae'r tywydd yn sych ac yn wresog yn yr haf, chi'n gweld lliw glas neu wyrdd ac ma hwnnw yn gallu fod yn wenwynig i anifeiliaid.

"Mae cŵn i'w weld yn ei chael hi'n waeth. Mae'n gallu eu lladd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Ifan Lloyd, Llywydd Cymru, Cymdeithas Filfeddygol Prydain

Mae'r Gymdeithas Filfeddygol yn dweud bod cynnydd wedi bod mewn adroddiadau, ac mae swyddogion yn annog perchnogion i gadw cŵn ar dennyn o amgylch llynnoedd ac afonydd sydd wedi eu heffeithio.

Mae symptomau yn cynnwys:

  • chwydu

  • dolur rhydd

  • glafoerio

  • trafferth anadlu

  • trawiadau

Os nad yw'r anifeiliaid yn cael triniaeth yn fuan, gall y tocsinau achosi niwed i'r iau, ac fe all hyn fod yn angheuol, yn ôl y Gymdeithas Filfeddygol.

Fe all yr algâu achosi poenau stumog, gwres a chur pen i bobol. Mewn achosion prin, gall achosi niwed i'r iau a'r ymennydd hefyd.

Nid yw'n bosib dweud â ydi'r algâu yn wenwynig trwy edrych arno. Y cyngor ydy i dybio ei fod yn wenwynig, a'i osgoi.