Cwpl yn ofni bydd llifogydd yn difrodi eu tŷ a'u busnes
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl o Geredigion yn ofni bod eu cartref a'u busnes mewn perygl o lifogydd ar ôl i ran o glawdd wrth ochr afon ddymchwel.
Mae Nia a Wayne Edwards yn byw yn Ynys-las ger Y Borth ac ers dwy flynedd maen nhw wedi rhedeg busnes gwerthu planhigion a chelfi i'r ardd, a chenelau.
Maen nhw'n gofidio y bydd eu heiddo dan fygythiad - yn enwedig yn ystod llanw uchel - oherwydd twll mewn clawdd ar bwys yr Afon Leri.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod wedi ymrwymo i wneud yr hyn a allant "i ddiogelu pobl ac eiddo yn ogystal â'r bywyd gwyllt arbennig yn yr ardal".
Fe wnaeth y twll ymddangos yn ystod Storm Ellen ym mis Awst.
Ar adegau o lanw uchel mae dŵr o'r afon yn llifo i ffosydd cyfagos sydd yn rhedeg trwy Gors Fochno - corsdir mawnog sydd o bwys cadwraethol rhyngwladol.
Mae un o'r ffosydd yn rhedeg heibio i eiddo Nia a Wayne Edwards ac maen nhw'n ofni y gallai orlifo.
'Symud eiddo ac anifeiliaid bedair gwaith'
Dywedodd Wayne: "Mae lefel y dŵr yn codi sy'n mynd i achosi problem. Ni wedi bod yn lwcus hyd yn hyn - mae'r 'spring tides' mawr wedi dechrau penwythnos diwethaf, ac mae'r tywydd wedi bod ar ein hochr ni, ond beth sy'n mynd i ddod yn y misoedd nesaf?
"Pan mae'r banc yn sownd - does dim problem, mae popeth yn gweithio'n iawn. Ond pan mae dŵr yn mynd mewn dros y banc dyw'r system ddim yn gallu dal y dŵr - mae'r dwr yn codi lan ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ofni y gallwn ni gael problem."
Oherwydd pryder ynglŷn â llifogydd mae'r cwpwl yn dweud eu bod wedi gorfod symud eiddo ac anifeiliaid pedair gwaith mewn llai na blwyddyn - gan gynnwys atal cŵn rhag dod i aros yn y cenelau.
Esboniodd Wayne: "Ni'n gorfod canslo y cŵn i gyd, felly mae'r busnes yn dod i stop.
"Mae anifeiliaid ein hunain gyda ni - asynnod a cheffylau - ac maen nhw'n gorfod mynd allan, ni jyst yn gorfod paratoi I fynd o dan ddŵr."
'Colli miloedd'
Yn ôl Nia a Wayne fe gollon nhw werth £19,000 o fusnes o fod ar gau yn ystod cyfnod y clo mawr - maen nhw'n dweud eu bod wedi colli miloedd yn rhagor ers ailagor oherwydd ansicrwydd ynglŷn â'r posibilrwydd o lifogydd.
Yn ogystal â'r effaith arnyn nhw, mae'r cwpwl hefyd yn dweud eu bod nhw'n poeni am effaith dŵr hallt ar fywyd gwyllt y gors.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod wal o fyrddau pren ar hyd y ffos er mwyn ceisio atal unrhyw ddŵr rhag cyrraedd y tŷ a'r busnesau.
Hefyd roedd staff CNC ar gael yn ystod y llanw uchel diwethaf, yn barod i bwmpio dŵr i ffwrdd pe bai llifogydd wedi digwydd. Ond mae Nia a Wayne am weld y sefydliad yn gwneud mwy.
Fe ddywedon nhw: "Ein pryder ni yw hyn - os nad yw'r twll yn cael ei lenwi yn fuan bydd Cyfoeth Naturiol yn dweud y bydd hi'n rhy wlyb iddyn nhw wneud dim byd.
"Ac os ydyn ni'n mynd i fod gyda twll mawr yn y banc am y gaeaf yna mae lefel y dŵr yn mynd i godi a byddwn ni allan o 'ma, bydd y busnesau ar stop, a gallwn ni fod allan o fusnes ac allan o'n cartref ni hefyd."
Mewn datganiad, dywedodd Martin Cox, Pennaeth Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yn y Canolbarth: "Rydym yn ymwybodol o'r toriad yn yr arglawdd ar Afon Leri ger y Borth.
"Rydym wedi ymrwymo i wneud yr hyn a allwn i ddiogelu pobl ac eiddo yn ogystal â'r bywyd gwyllt arbennig yn yr ardal, ond mae newid yn yr hinsawdd yn achosi i'r môr godi a chreu bygythiad cynyddol.
"Rhaid i ni weithio gyda chymunedau mewn ardaloedd isel i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac ystyried cynaladwyedd hirdymor amddiffynfeydd fel y rhai ar Afon Leri."
Mae llefarydd CNC wedi dweud ei fod yn gobeithio trwsio'r clawdd cyn gynted ag sy'n bosibl, ond fe fydd y gwaith yn gostus ac yn golygu gorfod cludo llawer o ddeunyddiau i'r safle.
Dywedodd hefyd fod yn rhaid ystyried yr effaith ar Gors Fochno sy'n ardal o gadwraeth arbennig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2013