Menywod Cymru'n cael cymryd tabledi erthylu gartref
- Cyhoeddwyd
Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru sy'n galluogi menywod i gymryd tabledi erthylu gartref wedi cael ei groesawu fel cam "arwyddocaol".
Hyd yn hyn bu'n rhaid teithio ddwywaith i glinigau i gymryd meddyginiaeth er mwyn dod â beichiogrwydd i ben, ac roedd rhai cleifion yn gorfod teithio'n bell o'u cartrefi.
Dywedodd elusen fod menywod yn dioddef poenau a gwaedu wrth deithio adref ar ôl cymryd y tabledi, a hynny mewn rhai achosion wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd Coleg Brenhinol y Bydwragedd fod y cam yn un "synhwyrol ac ymarferol".
Mae'r newid yn golygu bod Cymru bellach yn rhoi'r un hawl i ferched ag yn Yr Alban ers y llynedd. Mae'r drefn hefyd yn debyg mewn gwledydd fel Sweden a Ffrainc.
Dywedodd yr elusen British Pregnancy Advisory Service (BPAS) fod y penderfyniad yn golygu y bydd menywod yn teimlo'n "ddiogel ac yn gyfforddus" wrth gymryd y tabledi gartref.
Mae'r elusen yn galw am gyflwyno'r newid yn Lloegr.
Beth mae'r newid yn ei olygu?
O'r 8,578 achos o derfynu beichiogrwydd yng Nghymru, roedd 79.2% yn achosion meddygol yn hytrach na rhai llawfeddygol.
Dan y drefn bresennol, mae menywod sy'n cael erthyliad meddygol, sydd ond ar gael yn ystod naw wythnos gyntaf y beichiogrwydd, yn gorfod ymweld â chlinig ddwywaith i gymryd dwy bilsen o fewn 72 awr o'i gilydd.
Mae'r bilsen gyntaf, Mifepristone, yn atal yr hormon progesterone, sy'n angenrheidiol i gynnal y beichiogrwydd.
Mae'n bosib rhoi'r ail bilsen, Misoprostol, ar yr un diwrnod, neu 24, 48 neu 72 awr ar wahân.
Ond o ddydd Gwener ymlaen fe allai menywod ddewis i gymryd Misoprostol mewn clinig neu gartref.
Byddan nhw'n dal yn gorfod mynd i glinig i gymryd y bilsen gyntaf, Mifepristone, ac i gasglu'r ail bilsen.
Mae menywod yn gallu gwaedu'n drwm o fewn awr o gymryd Misoprostol, sy'n broblem "anferthol" wrth deithio o'r clinig, yn ôl Bronwen Davies, nyrs wedi ymddeol sy'n aelod o'r grŵp Abortion Rights Cardiff.
"Dydych chi byth yn gwybod pryd mae'n mynd i ddechrau," meddai.
Ychwanegodd bod menywod yn gallu mynd yn sâl yn ystod y daith, yn enwedig wrth deithio yn rhannau gwledig o Gymru, a bod yna drafferthion hefyd o ran cymryd amser o'r gwaith a thalu i deithio i'r clinigau.
'Wedi gwrando'
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething iddo wneud y penderfyniad ar ôl gwrando ar farn clinigwyr a grwpiau sy'n cynrychioli menywod.
"Mae'r newid hwn mewn ymarfer yn rhoi mwy o ddewis i fenywod sy'n gofyn am erthyliad ac mae'n golygu eu bod nhw'n gallu cwblhau'r driniaeth yn yr awyrgylch lle maen nhw'n teimlo fwyaf cyfforddus," meddai.
"Bydd hefyd yn torri ar y baich sy'n cael ei ysgwyddo gan adnoddau clinigol ar hyn o bryd.
"Bydd mwy o apwyntiadau ar gael i fenywod sydd am ddefnyddio gwasanaethau terfynu beichiogrwydd, a bydd mwy ohonynt yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth erthylu ar adeg gynharach yn ystod eu beichiogrwydd."
Dywedodd Helen Rogers, cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru bod hwn yn "gam synhwyrol ac ymarferol".
"Mae'n rhoi mwy o ddewis i fenywod a rheolaeth dros eu hiechyd a lles atgenhedlon eu hunain.
"Mae'n gyhoeddiad i'w groesawu ac fe fydd yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i fenywod sy'n defnyddio'r gwasanaethau yma."
Dywedodd un o gyfarwyddwyr BPAS, Clare Murphy bod hi bellach yn "gwneud dim synnwyr" bod yna wahaniaeth rhwng yr hyn sy'n bosib i fenywod yng Nghymru a sefyllfa menywod "ychydig filltiroedd" i ffwrdd yn Lloegr.
Mae BBC Cymru wedi cysylltu â'r mudiadau ProLife Alliance a'r Society for the Protection of Unborn Children i roi cyfle iddyn nhw ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2017