Myfyrwyr Caerdydd yn galw am ostyngiad ffioedd dysgu

  • Cyhoeddwyd
Protest

Mae degau o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd wedi galw am ostyngiad yn eu ffioedd dysgu gan fod darlithoedd wedi eu heffeithio gan y pandemig coronafeirws.

Roedd rhyw 50 o fyfyrwyr mewn protest ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd brynhawn dydd Sul.

Dadl y myfyrwyr yw eu bod wedi talu ffioedd dysgu a chytundebau tenantiaeth cyn iddyn nhw glywed gan y brifysgol y byddai'r cyrsiau'n cael eu dysgu arlein.

Dywed y trefnwyr y byddai llawer wedi dewis dysgu o adref petai nhw'n gwybod am y trefniadau dysgu newydd.

"Ein nod yw cael gostyngiad mewn ffioedd dysgu am eleni," meddai Umar Qazi, trefnydd y brotest sydd yn astudio peirianneg ac yn ei drydedd blwyddyn.

"Rydym yn deall fod darlithwyr yn trio eu gorau ond nid yw'r un system ag oedd yn bodoli gynt.

"Ni fydd modd i ni ffurfio cysylltiadau yn ein grwpiau darlithoedd na mynd i astudio yn y llyfrgell - mae'n brofiad cwbl wahanol i fyfyrwyr y gorffennol, felly pam ydym yn talu'r un swm?" meddai.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Caerdydd wrth y BBC wythnos diwethaf nad oedd y brifysgol mewn sefyllfa i gynnig ad-daliadau neu ostyngiad taliadau i fyfyrwyr:

""Bydd y gost i ni o ddarparu'r hyn rydyn ni'n ei ystyried yn addysg o ansawdd uchel, fydd yn sicrhau canlyniadau dysgu rydyn ni'n eu disgwyl o'n rhaglenni yn aros yr un fath," meddai.

"Nid yw hwn yn fater y gallwn ni ei drin ar hyn o bryd oherwydd gallem wneud y sefyllfa'n waeth o lawer os nad ydym yn ofalus."

Pan ofynnwyd iddo a oedd hynny'n golygu nad oedd gan y prifysgolion ddigon o arian i dalu ffioedd yn ôl, dywedodd: "Wel, gallem fod yn y sefyllfa honno yn y pen draw, ac mae hynny'n broblem i'r llywodraeth yn hytrach nag i'r brifysgol."