'Blaenoriaeth i fyfyrwyr allu mynd adref am y Nadolig'

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr prifysgol dan gyfyngiadauFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Llywodraeth Cymru'n cydweithio gyda phrifysgolion i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu mynd adref i dreulio'r Nadolig gyda'u teuluoedd, yn ôl y gweinidog addysg.

Mae sicrhau fod hynny'n digwydd yn "flaenoriaeth", meddai Kirsty Williams wrth drafod datblygiadau diweddaraf yr argyfwng coronafeirws mewn cynhadledd newyddion.

Dywedodd y bydd Prifysgol Aberystwyth yn adolygu penderfyniad i atal dysgu wyneb yn wyneb am y tro ddydd Gwener, a'i fod yn annheg i gyhuddo myfyrwyr o beidio cymryd y pandemig o ddifri'.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda phrifysgolion i sicrhau canolfannau profi 'cerdded-i-mewn' ar gampysau.

"Mae'r Nadolig dri mis i ffwrdd, ond rwyf eisiau ei gwneud yn glir fod sicrhau fod myfyrwyr yn gallu dychwelyd adref dros Nadolig yn flaenoriaeth i fi ac i'r llywodraeth," meddai Ms Williams.

"Byddwn yn gweithio gyda'r prifysgolion i wneud yn siŵr fod hyn yn gallu digwydd.

"Fe fydd nifer ohonoch eisiau croesi ffiniau siroedd a gwledydd ar yr adeg yma. Rwyf eisoes wedi trafod y mater gyda gweinidogion yn y DU i wneud yn siŵr y gallwn eich cefnogi pan ddaw'r amser."

Ychwanegodd ei bod wedi anfon ei merch ei hun i'r brifysgol am y tro cyntaf dros y penwythnos.

Cadarnhaodd Prifysgol Aberystwyth ddydd Llun bod addysgu wyneb yn wyneb yn dod i ben am y tro ar ôl i achosion o Covid-19 gael eu darganfod ymysg myfyrwyr.

Mae chwech o'r wyth prifysgol yng Nghymru wedi dweud wrth BBC Cymru bod achosion coronafeirws wedi'u cofnodi ymysg eu myfyrwyr.

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pwysigrwydd parhau gyda gwersi wyneb yn wyneb ar draws Cymru, atebodd Ms Williams eu bod yn "rhan bwysig o'r broses dysgu" ac yn bwysig hefyd o ran lles myfyrwyr.

Dywedodd hefyd fod llawer o fyfyrwyr ledled Cymru yn cael gwersi uniongyrchol "llwyddiannus", yn ogystal â rhai ar-lein.

Disgrifiad o’r llun,

Kirsty Williams yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru ddydd Mercher

Ychwanegodd: "Mae'n wirioneddol annheg i feio myfyrwyr, neu greu'r naratif fod myfyrwyr mewn ffordd ddim yn cymryd y pandemig yma o ddifri'.

"Mae mwyafrif helaeth y myfyrwyr sy'n astudio yma yng Nghymru eisiau gwneud y peth cywir ac maen nhw eisiau dilyn y rheolau.

"Bydd yna leiafrif bach sy'n anwybyddu'r rheolau [fel y mae eraill o fewn gweddill cymdeithas].

"Mae'r rheolau yna i bawb - i breswylwyr parhaol Cymru, ond hefyd i'n myfyrwyr."

Apêl i fyfyrwyr

Ychwanegodd Ms Williams: "Rydym yn gweithio gyda phrifysgolion i sefydlu canolfannau cerdded-i-mewn ar y campws, yn arbennig i gefnogi pobl na all yrru i ganolfannau gyrru-i-mewn."

Mae'r prifysgolion, meddai, yn "sicrhau fod pethau fel bwyd, nwyddau hylendid a chefnogaeth iechyd meddwl a lles" ar gyfer y myfyrwyr sy'n gorfod hunan-ynysu.

Apeliodd y Gweinidog ar fyfyrwyr i hunan-ynysu a chael prawf os ydyn nhw'n cael symptomau coronafeirws ac i gefnogi ei gilydd mewn cyfnod sy'n "anodd i bawb".

"Peidiwch â mynd adref os oes gyda chi symptomau, gan fynd â'r feirws, o bosib, gyda chi," meddai, "Dyna'r ffordd orau i ofalu am eich teulu."