Datblygu dull gwahanol o dyfu cnydau ar fferm ym Môn
- Cyhoeddwyd
Mae fferm ym Mrynsiencyn ar Ynys Môn wedi bod yn rhan o brosiect TechTyfu i ddatblygu ffordd wahanol o dyfu cnydau mewn llai o le.
Ffermio fertigol - efallai nad ydy o'n derm 'da chi'n gyfarwydd ag o, ond yn ôl rhai dyma ran amlwg o'r dyfodol i'r diwydiant amaeth.
Mae'n golygu tyfu planhigion a llysiau ar haenau uwchben ei gilydd yn hytrach nag ar un arwyneb fel mewn cae neu dŷ gwydr. Does dim angen pridd na llawer o ddŵr chwaith.
Mae'r dechnoleg wedi bod yn cael ei brofi ar Ynys Môn yn ddiweddar.
Gyda disgwyl i boblogaeth y byd gyrraedd yn agos at 10 biliwn dros y 30 mlynedd nesa' a llai o dir amaeth ar gael, mi fydd bwydo pawb yn her anferthol.
Yn ôl rhai, mae ffermio fertigol yn cynnig un ateb - gyda thyfu cnydau ar haenau gwahanol, a hynny dan amodau wedi'u rheoli, yn ei gwneud hi'n haws cynhyrchu mwy mewn llai o le.
Dros y misoedd diwetha' mae fferm Hootons ger Brynsiencyn wedi bod yn defnyddio'r dechnoleg arloesol yma i dyfu berwr dŵr, a hynny fel rhan o brosiect TechTyfu gan Menter Môn.
Mae'r system hydroponeg yn pwmpio sylwedd sy'n llawn maeth i'r cnwd, heb yr angen am bridd.
"Mae fy nheulu wedi bod yn ffermio yma ers dechrau'r 1960au," esboniodd James Hooton, "a berwr y dŵr yw'r cynnyrch diweddaraf rydyn ni'n ei dyfu i gyflenwi ein siop fferm.
"Rydyn ni wedi bod yn defnyddio hydroponeg i drin cnydau ers blynyddoedd lawer, fel gyda'r mefus y byddwch chi'n eu gweld ar ein safle pigo mefus eich hunain. Fodd bynnag, dyma'r tro cyntaf i ni ddefnyddio system fferm fertigol.
"Mae rhwyddineb defnyddio'r system hon wedi creu argraff arna' i.
"Mae gallu treialu'r system trwy brosiect TechTyfu wedi dangos i mi fod y system yn gweithio'n dda ac yn cynnig nifer o fanteision. Rydym yn bwriadu treialu'r system ymhellach trwy dyfu cnydau eraill fel egin pys a pherlysiau amrywiol."
Mae'r gwaith wedi'i ariannu trwy brosiect TechTyfu Menter Môn, sy'n creu fforwm rhannu sgiliau ac yn gweithio ar y cyd â thyfwyr lleol a busnesau bwyd i ddatblygu cadwyni cyflenwi.
Dywedodd Dafydd Gruffydd, rheolwr gyfarwyddwr Menter Môn: "Mae 'na lawer iawn o fanteision gyda'r math yma o ffermio - er enghraifft, 'da chi ond yn defnyddio tua 10% o'r dŵr fasa chi'n defnyddio fel arfer efo ffermio mwy traddodiadol.
"'Da chi hefyd yn defnyddio llai o gemegion, llai o chwynladdwyr, llai o fertilizers, felly mae'n iachach o ran hynny.
"Dydy hyn ddim yn cymryd lle ffermio cyffredin, ond mae'n ychwanegu ato fo.
"Yn gyffredinol, 'da ni'n tyfu cnydau fasa ni'n eu mewnforio o wledydd eraill fel arfer.
"Mae'n amlwg bod Brexit ar y gorwel ac mae 'na gwestiynau am fewnforio bwyd a'r gadwyn gyflenwi, ond hefyd mae'n bwysig bod ni yn arloesi a gweld sut mae modd i ni ddatblygu.
"Felly os 'da ni'n gallu tyfu cnydau tu allan i'w tymor yn y wlad yma, mae'n well i'n heconomi ni a hefyd mi fydd o'n lleihau'r ôl-troed carbon."
Yn ôl Mr Gruffydd, mae'n hollbwysig pontio rhwng y dechnoleg a'r gadwyn gyflenwi ac mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yma.
"Er bod Covid wedi bod yn digwydd, mae 'na ymholiadau wedi bod yn dod mewn yn ddyddiol gan fwytai, gan aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb mewn tyfu eu hunain," meddai.
"Felly mae o wedi cynnau diddordeb yn y ffordd newydd yma o weithio, yn enwedig yn yr hinsawdd yma wrth i ni wynebu Brexit."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2020