Llywydd yn gwahardd Neil McEvoy rhag siarad yn y Senedd

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Neil McEvoy yw AS Canol De Cymru

Mae Neil McEvoy AS wedi ei wahardd rhag siarad yn y Senedd ar ôl iddo gynnal protest yn ystod dadl am hiliaeth.

Gosododd Mr McEvoy dâp dros ei geg a chodi placard yn dilyn penderfyniad gan Lywydd y Senedd i wrthod ei welliannau i gynnig oedd yn cael ei drafod ddydd Mawrth.

Er fod ganddo'r hawl i siarad yn ystod y ddadl, honnodd Mr McEvoy fod ei lais wedi cael ei "gymryd i ffwrdd".

Mewn llythyr at Aelodau o'r Senedd ddydd Mercher, dywedodd y Llywydd Elin Jones fod sylwadau Mr McEvoy yn "sarhaus ac enllibus ac yn gwbl annerbyniol".

"Rwyf wedi ysgrifennu at yr Aelod dan sylw i ofyn am ymddiheuriad personol ac iddo ddileu'r negeseuon dan sylw ar y cyfryngau cymdeithasol," meddai.

"Hyd nes y byddaf yn derbyn ymddiheuriad a chadarnhad fod y negeseuon wedi eu dileu, ni fydd yr Aelod yn cael ei alw i siarad yn ystod trafodion."

Beth ddigwyddodd ddydd Mawrth?

Roedd AS Canol De Cymru wedi cyflwyno pedwar gwelliant i gynnig Llywodraeth Cymru ar daclo hiliaeth ac anghyfartaledd ddydd Mawrth.

Cafodd pob gwelliant i'r ddadl, gan gynnwys rhai Mr McEvoy, eu gwrthod gan y Llywydd.

Dywedodd y Llywydd wrth egluro ei phenderfyniad y byddai'n edrych i ddewis neu beidio dewis gwelliannau er mwyn sicrhau fod y drefn yn un weithredol a chywir o dan y trefniadau hybrid sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan Senedd Cymru.

Cafodd BBC Cymru wybod fod grwpiau gwleidyddol yn y Senedd wedi cytuno i gynnig llai o welliannau.

Dywedodd y Llywydd: "Fel mae aelodau'n gwybod ry'n ni mewn cyfnod anarferol gyda Senedd hybrid [cyfuniad o ASau'n cyfrannu yn fyw ac yn rhithwir], ac rwyf wedi dweud sawl tro y byddaf yn chwilio i gynnwys, neu i beidio cynnwys gwelliannau ar gyfer trefn gywir Senedd hybrid."

'Ddim am ymddiheuro'

Roedd Mr McEvoy yn anghytuno gan ei chyhuddo o wrthod ei "hawl ddemocrataidd".

"Yn fy marn bersonol, ac ym marn nifer o bobl, mae hyn yn hiliaeth ar waith," meddai.

"Fel mae pethau nawr, does dim croeso i ddyn brown gyda llais a barn gan lawer yn yr adeilad yma."

Wrth ymateb i sylwadau diweddara'r Llywydd dywedodd Mr McEvoy y dylai hi "egluro pam ei bod yn credu fod yna gyfiawnhad i wrthod yr holl welliannau gafodd eu cynnig gan berson o liw ar drafodaeth ar hiliaeth."

"Byddaf ddim yn ymddiheuro i Elin Jones a dwi'n sefyll gyda be ddywedais a fy ngweithredoedd," meddai.

Ychwanegodd: "Mae gwaharddiad ar bopeth just yn ehangu ar beth sydd eisoes wedi bod yn digwydd."