Edrych nôl ar Lloegr v Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae dros 140 o flynyddoedd ers i Gymru a Lloegr chwarae pêl-droed yn erbyn ei gilydd am y tro cyntaf.
Lloegr enillodd y gêm honno o 2-1 ar y Kennington Oval yn 1879.
Nos Iau fe fydd y ddwy wlad yn herio ei gilydd unwaith yn rhagor mewn gêm "gyfeillgar".
Ar noson arferol mi fasai Stadiwm Wembley dan ei sang. Ond, y tro hwn fe fydd y gêm yn cael ei chynnal y tu ôl i ddrysau caeëdig gyda charfan Ryan Giggs, heb Bale a Ramsey, yn chwilio am fuddugoliaeth cyn wynebu Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Ers y gêm gyntaf honno mae Cymru wedi ennill 14, Lloegr wedi ennill 67, ac mae 21 o'r gemau rhwng y ddwy wlad wedi gorffen yn gyfartal.
Dyma ddewis yr hanesydd Meilyr Emrys o rai o'r gemau cofiadwy rhwng y ddau elyn.
16 Mehefin 2016 - Stade Bollaert-Delelis, Lens
Cymru 1, Lloegr 2 (Rowndiau Terfynol Euro 2016)
Pwy allai anghofio'r achlysur yma? Dyma oedd ail gêm Cymru ym Mhencampwriaeth Euro 2016.
Ar ddiwrnod crasboeth yn Lens fe gamodd Cymru allan yn y cit llwyd i wynebu tîm Roy Hodgson a oedd y ffefrynnau i ennill y grŵp.
Yn erbyn llif y chwarae roedd aelodau'r 'Wal Goch' yn eu seithfed nef ar ôl i gic rydd ryfeddol Gareth Bale dwyllo Joe Hart yn y gôl i Loegr ychydig funudau cyn hanner amser.
Roedd y dagrau'n llifo ymysg cefnogwyr Cymru; roedd y peth yn anhygoel, Cymru ar y blaen hanner amser gyda'r posibilrwydd o fynd i frig y grŵp gyda buddugoliaeth dros yr hen elyn.
Ond fe darodd Lloegr yn ôl gyda gôl flêr gan Jamie Vardy, cyn i Daniel Sturridge dorri ein calonnau ni ym munud olaf y gêm.
Er y golled fe lwyddodd Cymru i orffen ar frig y grŵp gyda Lloegr yn ail.
6 Medi 2011 - Wembley, Llundain
Lloegr 1, Cymru 0 (Rowndiau Rhagbrofol Euro 2012)
Chwe mis wedi i Loegr ennill yn hawdd yn gêm gartref gyntaf Gary Speed fel rheolwr Cymru yng Nghaerdydd, bu bron i'r crysau cochion gipio gêm gyfartal annisgwyl ar eu hymweliad mwyaf diweddar â Wembley.
Gyda chwarter awr yn weddill - a'r gôl yn wag o'i flaen - llwyddodd Robert Earnshaw i godi'r bêl dros y trawst o chwe llath ac felly roedd ergyd gynharach Ashley Young yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i'r tîm cartref.
2 Mai 1984 - Y Cae Ras, Wrecsam
Cymru 1, Lloegr 0 (Pencampwriaeth Gwledydd Prydain)
Dyma'r tro diwethaf i Gymru drechu Lloegr.
O flaen torf o dros 14,000 ar y Cae Ras yn Wrecsam, bachgen lleol o'r enw Mark Hughes - oedd yn cynrychioli ei wlad am y tro cyntaf - sgoriodd unig gôl y gêm.
Rhwydodd Hughes ei ail gôl ryngwladol ar y Vetch, yn Abertawe, dair wythnos yn ddiweddarach, ond sicrhaodd peniad Gerry Armstrong mai Gogledd Iwerddon, yn hytrach na Chymru, oedd enillwyr diwethaf Pencampwriaeth Gwledydd Prydain.
17 Mai 1980 - Y Cae Ras, Wrecsam
Cymru 4, Lloegr 1 (Pencampwriaeth Gwledydd Prydain)
O flaen torf enfawr yn yr haul yn Wrecsam, cafodd Mike England y dechrau gorau posib i'w gyfnod fel rheolwr Cymru, wrth i Gymru fwynhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed dros Loegr.
Tawelwyd y rhan fwyaf o'r 24,386 oedd yn y Cae Ras pan roddodd Paul Mariner yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl chwarter awr.
Ond tarodd Mickey Thomas yn ôl bron yn syth, cyn i goliau pellach gan Ian Walsh, Leighton James a Phil Thompson (i'w rwyd ei hun) sicrhau mai'r cefnogwyr cartref oedd yn dathlu ar ddiwedd y prynhawn.
9-1 yw buddugoliaeth fwyaf swmpus Lloegr dros Gymru: Steve Bloomer oedd yn gyfrifol am bump o goliau'r ymwelwyr pan ddinistriwyd y Dreigiau ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd, ym mis Mawrth 1896… Sgôr criced ar gae rygbi!
31 Mai 1977 - Wembley, Llundain
Lloegr 0, Cymru 1 (Pencampwriaeth Gwledydd Prydain)
Y tro cyntaf i Gymru drechu Lloegr ers 1955 ac unig fuddugoliaeth y crysau cochion yn Wembley (…hyd yma).
Wedi i swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wrthod chwarae Hen Wlad Fy Nhadau cyn y gic gyntaf (gan nad oeddent yn ei chydnabod yn anthem genedlaethol), protestiodd tîm Cymru - oedd yn cynnwys cenedlaetholwyr pybyr fel John Mahoney a Dai Davies - drwy barhau i sefyll mewn llinell ar ochr y cae am rai eiliadau wedi i'r band orffen chwarae God Save the Queen.
Ymatebodd rai o'r cefnogwyr cartref drwy fŵ-io safiad y Cymry, ond yr unig beth wnaeth hynny oedd cythruddo'r ymwelwyr ymhellach ac ysbrydoli Terry Yorath a'i dîm i sicrhau buddugoliaeth enwog.
Leighton James sgoriodd y gôl dyngedfennol o'r smotyn, wedi i Peter Shilton ei lorio yn y cwrt cosbi ychydig cyn diwedd yr hanner cyntaf.
22 Hydref 1955 - Parc Ninian, Caerdydd
Cymru 2, Lloegr 1 (Pencampwriaeth Gwledydd Prydain)
Daeth 60,000 drwy'r giatiau ym Mharc Ninian i weld Cymru yn trechu Lloegr am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd, diolch i goliau gan Derek Tapscott a Cliff Jones.
Fe sgoriodd John Charles y diwrnod hwnnw hefyd, ond i'w rwyd ei hun yn anffodus, i roi llygedyn o obaith i Loegr. Roedd tîm Cymru y diwrnod hwnnw hefyd yn cynnwys Ivor Allchurch a Trevor Ford gyda Jack Kelsey yn y gôl.
15 Mawrth 1920 - Highbury, Llundain
Lloegr 1, Cymru 2 (Pencampwriaeth Gwledydd Prydain)
Er bod y crysau cochion wedi trechu Lloegr mewn gornest answyddogol yng Nghaerdydd y flwyddyn flaenorol, nid oedd Cymru wedi ennill gêm ryngwladol lawn yn erbyn eu cymdogion ers bron i ddeugain mlynedd a dechreuodd pethau'n wael i'r ymwelwyr unwaith eto, pan roddodd Charles Buchan y tîm cartref ar y blaen ar ôl dim ond saith munud.
Wedi hynny, bu'n rhaid i Gymru oroesi mwy na hanner y gêm gyda dim ond deg dyn - wedi i Harry Millership adael y cae gydag anaf - ond sicrhaodd goliau gan Stan Davies a Dick Richards fuddugoliaeth wyrthiol i'r Dreigiau ar brynhawn dydd Llun gwlyb yng ngogledd Llundain.
Chwarter canrif wedi iddo ennill ei gap cyntaf, hon oedd gêm ddiwethaf Billy Meredith dros ei wlad ac roedd y dewin o'r Waun dan deimlad wrth iddo adael y maes rhyngwladol am y tro olaf.
Wedi i Loegr drechu'r Alban yn Hillsborough ychydig wythnosau yn ddiweddarach, coronwyd Cymru yn Bencampwyr Gwledydd Prydain am ddim ond yr ail dro, ond ni fu'n rhaid disgwyl yn hir am lwyddiant pellach.
Yn wir, roedd yr 1920au a'r 30au yn oes aur i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru: enillodd y crysau cochion dwrnamaint Prydain chwe gwaith rhwng 1924 a 1939, a sicrhawyd saith buddugoliaeth arall dros Loegr yn ystod yr un cyfnod.
Ond dim ond ar bedwar achlysur mae Cymru wedi cael y gorau ar yr hen elyn yn yr 80 mlynedd a mwy ers hynny.
Hefyd o diddordeb: