Gwaith gwerth £25m ar adnewyddu traphont Y Bermo
- Cyhoeddwyd
Fe fydd gwaith atgyweirio gwerth £25m yn dechrau go iawn yr wythnos nesa ar draphont Y Bermo sy'n croesi aber Afon Mawddach yng Ngwynedd.
Mae disgwyl i'r gwaith ar y bont hanesyddol restredig Gradd II gymryd hyd at ddwy flynedd i'w gwblhau.
Dywed Network Rail y bydd 1,000 o ddarnau pren y bont bresennol yn gorfod cael eu hadnewyddu.
Fe fydd traciau newydd hefyd yn cael eu gosod ar y bont 820 metr o hyd.
Fe gafodd y bont wreiddiol ei chodi yn 1864 ar gyfer rheilffordd Lein y Cambrian sy'n cludo teithwyr rhwng Pwllheli a Machynlleth
Dywedodd y cynghorydd sir lleol Eryl Jones Williams fod y bont yn bwysig iawn i'r ardal.
"Heb y bont yma, byddai'r lle yma yn colli allan yn ddifrifol".
"Dwi'n falch o ran y gymuned. 'Neith o bara tua 100 mlynedd, "meddai Mr Jones-Williams sydd hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Rheilffordd y Cambrian.
"Mae'n dod â phobl i mewn yma, ac mae'r bont ei hun yn denu pobl. Mae pobl yn cerdded drosto fo," meddai.
"Mae 'na lot fawr o bobl sy' ond yn dod yma i weld y bont."
Dywedodd Bill Kelly, un o gyfarwyddwyr Network Rail fod y draphont yn un bwysig ac adnabyddus.
"Rydym yn buddsoddi £25m er mwyn rhoi i'r Draphont ei adnewyddiad mwyaf yn ei hanes, gan ddiogelu ein treftadaeth ddiwydiannol a sicrhau fod cyswllt trafnidiaeth bwysig yn parhau i wasanaethau pobl leol ac ymwelwyr ar gyfer y cenedlaethau i ddod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2015