Ad-drefnu dyletswyddau iechyd o fewn y cabinet
- Cyhoeddwyd
Mae'r prif weinidog Mark Drakeford wedi trosglwyddo rhai o gyfrifoldebau ei Weinidog Iechyd i Eluned Morgan mewn ad-drefnaid.
Fe fydd Vaughan Gething yn parhau yn gyfrifol am yr ymateb i haint coronafeirws, ac am berfformiad y gwasanaeth iechyd.
Ond fe fydd y Farwnes Morgan nawr yn gyfrifol am nifer o faterion iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, dementia ac awtistiaeth.
Dywedodd Mr Drakeford fod y newidiadau yn golygu y gallai Mr Gething ganolbwyntio ar coronafeirws.
Fe fydd dyletswyddau Ms Morgan o oruchwylio cysylltiadau rhyngwladol nawr yn cael eu trosglwyddo i'r prif weinidog, ond bydd Ms Morgan yn parhau â chyfrifoldeb am yr Iaith Gymraeg.
Dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol, Paul Davies, ei fod yn falch "fod y prif weinidog wedi gwrando arno a chael gwared ar weinidog [penodol] oedd â chyfrifoldeb am faterion rhyngwladol".
"Mae angen i Lywodraeth Llafur Cymru nawr fwrw mlaen gyda delifro mewn meysydd lle mae yna gyfrifoldeb amdanynt."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2020