Trosglwyddo coronafeirws yn nhafarndai Cymru'n 'bryder'
- Cyhoeddwyd
Mae trosglwyddiad coronafeirws yn nhafarndai a bwytai yn "bryder", yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Roedd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Ymateb Digwyddiad ICC, yn ymateb i'r cyhoeddiad y bydd bwytai a thafarndai canol Yr Alban yn cau am 16 diwrnod, a busnesau cyfatebol gweddill y wlad ond yn cael gweini alcohol y tu allan.
Mae yna ddarogan y gallai mesurau tebyg gael eu cyflwyno'r wythnos nesaf yn rhannau o Loegr sydd â chyfraddau uchel o achosion.
Fel y mae pethau'n sefyll, mae tafarndai, caffis a bwytai yng Nghymru'n cael gwerthu alcohol tan 22:00.
Asesu risg a monitro'r cynnydd
Fe wnaeth Dr Shankar ei sylwadau wrth gael ei holi ar raglen Breakfast with Claire Summers ar BBC Radio Wales ddydd Iau.
"Ar hyn o bryd, mae yna bryder ynghylch trosglwyddo sy'n mynd ymlaen yn y gymuned - nid dim ond mewn tafarndai ond mae'r holl adeiladau lletygarwch yn risg uchel," dywedodd.
"Mae'n fater o asesu'r risg. Rydym yn parhau i gyflwyno cyfyngiadau ar y sail y bydden nhw'n cael digon o impact i leihau nifer yr achosion.
"Wrth fonitro'r cynnydd, petai yna dystiolaeth bod dim digon o gynnydd a thystiolaeth o achosion pellach yn dod o leoliadau eraill, yna mae angen gwneud mwy."
Bu'n rhaid i dafarndai, bwytai a chaffis gau'n ddisymwth ym mis Mawrth i atal lledaeniad y feirws, cyn cael ailagor wedi 13 Gorffennaf gan weini cwsmeriaid yn yr awyr agored yn unig.
Mae wedi bod yn bosib i'w gweini dan do ers 3 Awst. Daeth y cyfarwyddyd i stopio gwerthu alcohol am 22:00 i rym ar 24 Medi yn sgil cynnydd yn niferoedd achosion Covid-19.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd23 Medi 2020