Betsi Cadwaladr yn wynebu cyfnod 'anodd ofnadwy'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder mai mater o amser sydd cyn bod nifer yr achosion yn cynyddu yn Ysbyty Gwynedd

Mae'r gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru yn paratoi i wynebu cyfnod "anodd ofnadwy" allai bara am fisoedd lawer wrth i nifer yr achosion coronafeirws yn yr ardal gynyddu.

Daw'r rhybudd gan gyfarwyddwr dros-dro nyrsio yn ysbytai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Mae Mandy Jones yn awgrymu y gallai'r cyfnod nesaf fod fwy heriol na delio â'r don gyntaf yn y gwanwyn.

Nod y gwasanaeth iechyd y tro hwn fydd cynnal cymaint o wasanaethau hanfodol a bo' modd, tra hefyd yn ymateb i coronafeirws a phwysau arferol gaeaf.

Ond fe fydd hynny'n golygu heriau aruthrol i staff sydd eisoes "wedi blino".

'Anodd ofnadwy'

"Mi fydd hi'n anodd ofnadwy," meddai Ms Jones.

"Mi fydd hi'n anodd i ni fel bwrdd iechyd i sicrhau bod gynnon ni'r capasiti, fydd hi'n anodd iawn i'r staff weithio mewn gwasanaeth sy' dan bwysau ofnadwy.

"Fe fydd 'na gleifion sâl, fe fydd pobl wedi blino, ond 'dan ni wedi paratoi cymaint ag y medrwn ni."

Yn wahanol i'r don gyntaf yn y gwanwyn pan gafodd mwyafrif o driniaethau'r gwasanaeth iechyd eu gohirio er mwyn canolbwyntio ar Covid-19, y bwriad y tro hwn yw cynnal cymaint o wasanaethau allweddol a bo modd.

Ond yn ôl Ms Jones fe fydd hynny'n her aruthrol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mandy Jones yn awgrymu y gallai'r cyfnod nesaf fod fwy heriol na delio â'r don gyntaf

"Be' sy'n wahanol rŵan ydy bod rhai o'r mesurau roedden ni wedi'u cymryd yn y don gyntaf ddim yna," meddai.

"Er enghraifft roedd llawfeddyginiaeth i gleifion wedi stopio, o'n ni di cael lot o volunteers yn dod mewn i helpu ni, myfyrwyr nyrsio a doctoriaid 'di dod mewn i helpu.

"Fydd gennym ni ddim hynna tro 'ma, a hefyd 'da ni'n gorfod gadael i be' da ni'n galw'n essential services - cleifion sy'n disgwyl am lawdriniaeth i ganser.

"Mae'n rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr ein bod ni'n cadw gwelyau yn ringfenced i'r cleifion, i wneud yn siŵr bod eu triniaeth nhw yn cael ei ddarparu - mae'n gymhleth ofnadwy.

"'Da ni 'di dysgu o'r don gyntaf, 'da ni'n gwybod be' sydd o'n blaenau ni ond hefyd mae'n mynd i fod yn gymhleth ac mae'n mynd i fod yn anodd iawn i ni."

Achosion ar gynnydd

Ar hyn o bryd dim ond nifer fach o gleifion â Covid-19 sydd yn uned gofal dwys Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Ond gyda nifer yr achosion yn lleol yn cynyddu mae'r staff sy'n gweithio yno yn ofni mai dim ond mater o amser sydd cyn bo' nifer yr achosion yn yr ysbyty yn codi hefyd.

Dros y saith diwrnod hyd at 5 Hydref roedd 99 achos o Covid-19 am bob 100,000 o bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gyda 82 achos am bob 100,000 yng Ngwynedd.

Cafodd 117 o achosion newydd eu cadarnhau yn ardal y bwrdd iechyd ddydd Iau - y ffigwr uchaf heblaw am Cwm Taf Morgannwg - a naw o'r achosion hynny yng Ngwynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Glenn Sanderson bod Ysbyty Gwynedd eisoes yn brysur

Mae hynny'n achosi pryder i staff fel Glenn Sanderson, sy'n nyrs yn yr uned gofal dwys, o ystyried pa mor brysur yw'r ysbyty eisoes yn trin cleifion sy'n ddifrifol wael â chyflyrau eraill.

"Ar hyn o bryd 'da ni'n brysur, ond da ni'n brysur fel arfer ar gychwyn y gaeaf pan mae pobl efo ffliw yn dechrau dod i mewn a phethau arall fel 'da ni'n disgwyl," meddai.

"Ond mae gennym ni patients efo Covid rŵan, so rhaid i ni hollti y staff mewn dau.

"Mae'n gwneud y job yn really anodd achos mae gennym ni llai o staff yn yr uned."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Conor Martin yn hyderus bod y gwasanaeth iechyd mewn sefyllfa well ar gyfer ail don

Er y pryder am yr hyn sydd i ddod mae 'na hyder hefyd ymhlith meddygon fel Dr Conor Martin sy'n gweithio ar Ward Covid Ysbyty Gwynedd.

"'Dan ni'n gwybod bod 'na rhai triniaethau yn well na'i gilydd," meddai.

"Yn amlwg 'dan ni'n gwybod erbyn hyn fod defnydd steroids mewn pobl sydd ar ocsigen yn sicr yn cyfrannu at wella'n fwy buan, ac mae 'na nifer o'r cleifion yn cael eu cofrestru ar gyfer y treialon yn yr ysbyty i ffeindio allan dros y misoedd nesa a fydd rheiny hefyd yn cyfrannu at welliant mwy buan.

"Yn amlwg y peth 'da ni'n edrych ymlaen fwyaf ato ydy os fydd 'na frechiad effeithlon.

"Mae'n mynd i fod yn aeaf caled ond yn sicr fe fyddai'n well gen i fod yn y sefyllfa rydyn ni yn rŵan - sefyllfa lle rydan ni'n gwybod lot mwy am yr afiechyd - nag oedden ni o'r blaen.

"Felly dwi'n hyderus fedrwn ni godi i'r sialens ond mae'n mynd i fod yn waith caled."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Caron Lowri Jones bod staff wedi "dod i 'nabod y salwch rŵan"

Mae Caron Lowri Jones, sy'n gweithio yn yr uned gofal dwys, yn ategu'r farn honno gan nad yw Covid-19 yn gymaint o ddirgelwch ag oedd e nôl ym mis Mawrth.

"Ti'n dysgu sut i edrych ar ôl y claf," meddai.

"Roedd bob dim yn newydd i ni, i'r doctoriaid, i bawb, a rŵan ti'n gwybod sut i setio'r ventilator a pa settings maen nhw isho. Ti'n dod i 'nabod y salwch rŵan."

Ond mewn gwirionedd, er bod dealltwriaeth o'r feirws cymaint yn well nag o'r blaen, does neb wir yn amau mai'r gaeaf hwn fydd yr anoddaf eto i'r staff y gwasanaeth iechyd yn y gogledd, fel ar draws Cymru.